Mae sawl gweithiwr cyngor ar draws Cymru yn ennill dros £100,000
|
Mae hyd at 40 o weithwyr cyngor ar draws Cymru yn ennill dros £100,000 yn ôl yr hyn mae BBC Cymru wedi cael ar ddeall.
Mae hyn yn golygu bod rhai yn ennill mwy na Phrif Weinidog Cymru Rhodri Morgan ac arweinydd y Ceidwadwyr, David Cameron.
Fe wnaeth 18 o'r 22 awdurdod lleol ymateb i gais drwy'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ar gyflogau staff ac roedden nhw'n gwario bron i £4 miliwn ar gyflogau.
Cyngor Bro Morgannwg oedd yn gwario'r swm ucha, £776,000 ar saith aelod o staff gan gynnwys cyflog dau athro.
Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mae angen i'r cynghorau gael y bobl gorau i wneud y prif swyddi.
Wnaeth dau o'r cynghorau, Caerdydd a Chaerfyrddin, ddim ymateb ac mae'r BBC yn dal i aros am wybodaeth bellach gan Benfro a Rhondda Cynon Tâf.
Fe ofynnwyd i'r cynghorau ddarparu manylion am nifer y staff oedd yn ennill dros £50,000, £80,000 a £100,000.
Yn ôl gwybodaeth credir bod wyth o staff y cynghorau mwy na Mr Morgan sy'n ennill £129,047 fel Prif Weinidog Cymru a Mr Cameron sy'n ennill £132,317 fel arweinydd y Ceidwadwyr.
Athrawon
Dywedodd dau gyngor sir, Blaenau Gwent a Cheredigion, nad oedd ganddyn nhw'r un aelod o staff yn ennill dros £100,000 a dim ond tri ym Mlaenau Gwent ac un yng Ngheredigion oedd yn cael dros £80,000.
Ym Mro Morgannwg mae dau athro yn ennill dros £100,000 gan fynd â mwy adre bob blwyddyn na'r AC lleol, Jane Hutt sy'n cael £91,000.
Gan Ms Hutt y mae'r cyfrifoldeb am addysg yng Nghymru.
Mae tri chyngor yn gwario dros hanner miliwn o bunnau'r un ar y prif gyflogwyr.
Ym mis Mawrth fe wnaeth grŵp ymgyrchu gyhoeddi canlyniad arolwg o holl gynghorau'r DU i ddangos faint oedd maint cyflogau pob prif weithredwr.
Dywedodd Cynghrair y Trethdalwyr mai Byron Davies, Prif Weithredwr Cyngor Caerdydd, oedd yn ennill y cyflog mwya yng Nghymru yn ystod 2006-7, sef £151,186.
"Rydym yn trafod y swyddi proffesiynol ucha o fewn Llywodraeth Leol yng Nghymru," meddai Steve Thomas, Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
"Mae'r bobl yma wedi bod o fewn llywodraeth leol ers sawl blwyddyn ac maen nhw'n hynod o brofiadol.
"Maen nhw'n gyfrifol am tua 200 o swyddogaethau gan gynnwys addysg a gwasanaethau cymdeithasol gan gyflogi tua 165,000 o bobl."
Ychwanegodd bod angen y bobl gorau i gyflawni'r swyddi gorau.
Dywedodd hefyd mai Cymru oedd un o ardaloedd tlota'r DU o ran y cyflogau ucha gan ddweud bod cyflog prif weithredwr ar gyfartaledd yng ngogledd ddwyrain Cymru yn £105,000 o'i gymharu â £161,000 yng Nghaer sydd dros y ffin.
Fe fydd mwy ar y stori yma ar raglen Dragon's Eye BBC Cymru ar BBC Un Cymru am 10.35pm nos Iau.