|
John Stevenson
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru
|
Mae'r sir wedi bod yn destun sawl adroddiad beirniadol
|
Cyngor Llafur yw Sir y Fflint ers i'r cyngor gael ei sefydlu 12 mlynedd yn ôl yn 1996.
Mae Llafur yn dal hanner y seddau ar hyn o bryd ar y cyngor sir.
Ceisio cadw rheolaeth drwy ymgyrchu ar eu record o hybu datblygiad economaidd ers yr etholiad diwethaf, fydd y blaid lywodraethol.
Gydol yr 1980au, aeth y rhan yma o Gymru drwy wasgfa economaidd enbyd.
Caeodd ffatri Courtauld's a rhannau o waith y Gorfforaeth Ddur Brydeinig yn Shotton ac ar ei waethaf, cododd diweithdra yn y sir i 20%.
Erbyn hyn, mae darlun tra gwahanol wedi datblygu: rwan, dim ond 1.9% sy'n derbyn y lwfans di-waith.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Cwmni Ceir Toyota fuddsoddiad sylweddol o £88 miliwn: mi fydd hwnnw yn diogelu 200 o swyddi ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.
Mae un o gwmnïau gwefannau mwyaf Prydain, sef cwmni moneysupermarket.com wedi dewis ymsefydlu yn Ewloe.
Ffatrioedd
Cwmni Airbus ym Mrychdyn ydi'r cyflogwr mwyaf yn y sir.
Mae'r gwaith yn cynhyrchu adenydd i'r awyren Airbus gyda bron i 6,000 o weithwyr ar y safle: un o'r safleoedd diwydiannol mwyaf yng Nghymru.
 |
PATRWM GWLEIDYDDOL Y PLEIDIAU
Llafur: 35 sedd
Annibynwyr a chlymblaid o Annibynwyr: 18 sedd
Democratiaid Rhyddfrydol: 10 sedd
Ceidwadwyr: 4 sedd
Plaid Cymru: 1 sedd
Heb fod yn perthyn i unrhyw blaid neu grŵp: 1
Lle gwag: 1
|
Mae 'na doriad ym mhatrwm daearyddol Sir y Fflint rhwng yr ardaloedd diwydiannol a threfol â'r ardaloedd mwy gwledig.
Mae'r sector diwydiannol yn rhan ddwyreiniol y sir, gyda'r ardaloedd gwledig tua'r gogledd.
Ond er y rhaniad hwnnw, mae 'na gyfran uchel o'r gweithlu yn gweithio o fewn y sector gynhyrchu.
Yn ôl ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol, mae cyflog wythnos ar gyfartaledd i weithwyr llawn amser yn £411.60.
Ceisio cael eu tŷ mewn trefn ac ail-sefydlu enw da fu hanes diweddar yr awdurdod.
Archwiliwr
Mae prif weithredwr yr awdurdod yn gymharol newydd yn ei swydd: cafodd ei benodi wedi i'r cyn brif weithredwr godi pac.
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn destun nifer o adroddiadau beirniadol ers dechrau'r ddegawd.
Mae'r sir yn cynnwys y gwaith diwydiannol ac ardaloedd gwledig
|
Cafodd y cyngor ei feirniadu oherwydd diffyg atebolrwydd a gonestrwydd gan Swyddfa Archwiliwr Cymru ac mae'r Archwiliwr hefyd wedi mynegi pryder ynglŷn ag ansawdd rhai o wasanaethau'r Awdurdod.
Yn ôl un adroddiad diweddar, mynnodd yr Archwiliwr fod gwasanaeth tai cyngor y sir gyda "nifer o sialensau sylfaenol ac mae strwythurau mewnol yr adran yn ogystal â'r adnoddau mae'r gwasanaeth tai yn cael, angen goruchwyliaeth fanwl".
Cafodd ansawdd y gwasanaeth i blant hefyd ei feirniadu.
Daeth problemau'r cyngor i'r amlwg ar ddechrau'r ddegawd pan ddarganfuwyd gan yr Archwilydd mewnol fod nifer o enghreifftiau o anonestrwydd a diffyg trefn rheoli.
Llwyddodd Andy Sutton i godi cwr y llen ar lygredd sylfaenol o fewn yr awdurdod. Penderfynodd Mr Sutton ymddiswyddo wedi i'r cyfan ddod yn fwrn ar ei iechyd.
Pedair blynedd yn ôl, cafodd y cyngor orchymyn cyfreithiol i dalu £111, 860 iddo oherwydd y ffordd y cafodd ei drin ganddyn nhw.
Sbwriel
Yn ogystal â materion sy'n ymwneud â strategaeth polisi fel tai, gwaredu ysbwriel, datblygu economaidd ac addysg, mae'r etholiad yn Sir y Fflint yn ffitio'r patrwm cyffredinol am etholiadau cyngor.
Hynny yw, mae ystyriaethau lleol bob amser yn pwyso'n drwm ar feddwl yr etholwyr sy'n troi allan i fwrw pleidlais.
I etholwyr yn ardal Bwcle, er enghraifft, mae sut i gael gwared ag ysbwriel yn debyg o fod yn bwnc llosg. Mae 'na deimlad cryf yno fod 'na ormod o safleoedd gwaredu ysbwriel yno'n barod.
 |
YSTADEGAU PERTHNASOL AM Y SIR
Ers 2001, mae poblogaeth y Sir wedi codi 1%: o 148,600 i 150,077
Mae 19% o'r boblogaeth yn blant ( 28,935), 62% o oed gwaith (92,360) a 19% wedi cyrraedd oed pensiwn (28,782)
Mae ffigurau Cyfrifiad 2001 yn dangos fod 71.6% o boblogaeth y Sir yn ddi-Gymraeg gyda 16.3% yn dweud eu bod nhw'n gallu siarad, darllen neu ysgrifennu'r iaith.
|
Mae'r cyngor presennol wrthi ar hyn o bryd yn trafod a ddylid caniatáu nifer o safleoedd gwaredu ysbwriel yn yr ardal honno. Tri mis yn ôl, penderfynodd yr awdurdod i beidio â gwneud penderfyniad ynglŷn â chais i agor safle tir lenwi sbwriel mewn lle o'r enw Chartel Parri ger Bwcle.
Mi fydd etholwyr Queensferry yn awyddus i leisio barn ynglŷn â beth ddylid digwydd nesaf am ddatblygu ffordd yr A494.
Mae Llywodraeth y Cynulliad eisoes wedi penderfynu peidio bwrw 'mlaen gyda chynllun i ddatblygu traffordd saith lôn i geisio lliniaru problemau traffig yn yr ardal.
Ond mae'r broblem tagfeydd yn parhau ac mae angen gwneud rhywbeth.
Mi fydd pobl leol yn awyddus iawn i gael dweud eu dweud ynglŷn ag unrhyw gynllun arfaethedig yr awdurdod.
Dyna fydd yn gam pwysig i ail sefydlu awdurdod sy'n dryloyw ac atebol.