BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 16 Ebrill 2008, 07:13 GMT 08:13 UK
Amazon yn agor canolfan anferth
Gweithiwr ar y diwrnod agoriadol
Gweithiwr ar y diwrnod agoriadol

Mae canolfan ddosbarthu anferth un o'r prif gwmnau gwerthu ar y we, Amazon, yn cael ei hagor ar gyrion Abertawe ddydd Mercher.

Fe fydd 1,000 o swyddi'n cael eu creu eleni a 1,700 o swyddi llawn amser a rhan amser yn ystod y pum mlynedd nesaf ar y safle ym Mhentrecaseg yn sir Castell-nedd Port Talbot.

Mae maint y ganolfan yn cyfateb i 10 cae pl-droed ar safle 33 erw.

Dywedodd y Prif Weinidog Rhodri Morgan: "Mae hyn yn un o'r buddsoddiadau mwya yng Nghymru ers datganoli naw mlynedd nl.

"Mae'n hwb sylweddol i'r economi Gymreig ac ar gyfer ardal Bae Abertawe yn arbennig.

"Cwmni rhyngwladol eiconig yw hwn ar flaen y gad yn yr e-economi."

'Swyddi ansefydlog'

Ond mae undeb Unite wedi dweud na ddylid dibynnu gormod ar swyddi yn y sector "gwasanaethu".

Fe dywedodd fod swyddi'n cael eu colli yn y sector cynhyrchu.

Gwefan Amazon
Sefydlwyd Amazon yn y Deyrnas Gyfunol yn 1998

"Rydyn ni'n gofidio bod y swyddi cynhyrchu yn mynd a bod swyddi ansefydlog yn eu lle, ar gyflogau is yn y sector gwasanaethu," meddai llefarydd ar ran yr undeb.

Dydd Mawrth cyhoeddodd y rheolwyr ffatri 3M yng Ngorseinon y byddai 185 yn colli eu gwaith.

Mae'r ffatri yn cynhyrchu tapiau, deunyddiau gludiog a chwistrellau aerosol.

Fe gymeradwyodd pwyllgor cynllunio Cyngor Castell-nedd Port Talbot ym mis Mawrth 2007 gynlluniau ar gyfer stordy Amazon, swyddfeydd a ffyrdd ar dir diwydiannol ger Ffordd Fabian.

Mae gan y cwmni ganolfannau yn Marston Gate ger Milton Keynes a Gourock a Glenrothes yn Yr Alban.



HEFYD
Cynllun i greu 1,500 o swyddi
16 Maw 07 |  Newyddion
400 o swyddi: 'Hwb i Abertawe'
12 Maw 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^