BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 16 Ebrill 2008, 07:09 GMT 08:09 UK
Gwesty 'golff' ar gyfer 2010
Cwrs Golff Machynys
Cwrs golff Machynys yw'r datblygwyr sy'n cael eu ffafrio
Mae cynllun i godi gwesty pedair seren ar arfordir Llanelli wedi cael ei gymeradwyo gan Gyngor Sir Gaerfyrddin.

Fe allai'r gwesty, sy'n cael ei godi ar dir wrth ymyl cwrs golff Machynys, fod yn barod erbyn Cwpan Ryder.

Mae'r datblygwyr yn gobeithio elwa pan fydd degau o filoedd o bobl yn dod i Gymru ar gyfer y gystadleuaeth yn y Celtic Manor ger Casnewydd yn 2010.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin y byddai'r datblygiad ym Machynys yn "newid arfordir Llanelli'n llwyr" a rhoi'r dref a'r sir ar y map twristaidd rhyngwladol.

'Budd enfawr'

Dywedodd Mark James, prif weithredwr y cyngor sir, fod cwrs golff Machynys yn hanfodol ar gyfer llwyddiant y gwesty newydd.

"Yn amlwg, fe fyddai'r gwesty yn ceisio elwa ar y 'farchnad golff' ac oherwydd hyn y targed o ran gorffen y prosiect yw 2010.

"Mae hyn yn ddatblygiad o ansawdd uchel fyddai'n dod budd enfawr, nid yn unig i Lanelli, ond sir Gaerfyrddin gyfan."



HEFYD
Cau ffatri: Colli 57 o swyddi
11 Ebr 08 |  Newyddion
Cyngor yn trafod 'iaith ar drai'
17 Maw 08 |  Newyddion
Scarlets yn benthyca 2.6m
14 Tach 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^