Bydd yn rhaid i bobl sy'n mynychu'r Oedfa dalu wrth fynd i'r Maes.
|
Mae'r corff sy'n cynrychioli Eglwysi yng Nghymru, Cytûn, wedi galw ar yr Eisteddfod Genedlaethol i ailystyried eu bwriad i godi tâl ar bobl i fynd i'r Maes ar fore Oedfa'r Eisteddfod ar y Sul cynta.
Fe ddywedodd Aled Edwards, Prif Weithredwr Cytûn, ei bod yn hen egwyddor bod mynediad i oedfa am ddim i bawb.
Bydd Bwrdd Rheoli'r Eisteddfod yn trafod cwyn Cytûn nos Wener.
Yn y gorffennol doedd dim tâl mynediad yn cael ei godi ar bobl oedd yn cyrraedd y Maes cyn 10.00 ar fore Sul.
Dywed yr Eisteddfod eu bod wedi gorfod newid y rheolau oherwydd bod pobl eraill yn manteisio ar y rheol ac yn camymddwyn, gyda rhai yn lladrata o'r Maes.
Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ym mis Awst.
Yn ôl Elfed Roberts, prif weithredwr yr Eisteddfod, y polisi nawr yw codi tâl (£9 i oedolion ar ddydd Sul) ar bawb gydol yr wythnos.
'Egwyddor'
Ond dywedodd Mr Edwards: "Mae yn hen hen egwyddor, yn wir egwyddor greiddiol i'n ffydd, fod mynediad i oedfa yn gwbl rydd i bawb. Yn wir mae nifer o'r traddodiadau Cristnogol yng Nghymru wedi brwydro, a thalu'n ddrud, dros ddiogelu'r egwyddor hon.
"Tristwch o'r mwyaf yw gweld yr egwyddor honno yn cael ei thanseilio gan yr Eisteddfod Genedlaethol.
"Mae'n siŵr fod gan yr Eisteddfod resymau dros y newid polisi yma, ond ni chredwn fod yr un ohonynt yn ddigonol i danseilio'r hawl i fynd i oedfa yn rhad ac am ddim."
Achos da
Dywed yr Eisteddfod fod yna broblem efo bobl eraill sy'n cymryd mantais o fynediad am ddim ar y Sul.
"Yn y gorffennol mae pobl yn dod i'r Maes ar adegau pan nad oeddwn i'n codi tâl ac mae hyn wedi arwain i gamymddwyn a drwgweithredu," meddai Elfed Roberts ar ddechrau'r mis.
"Ar y bore Sul mae yna gannoedd o bobl yn heidio i'r maes er mwyn cael mynd am ddim a rhan fwyaf o'r rhain a dim gronyn o ddiddordeb i fynd i'r oedfa."
Un arall sy'n feirniadol o'r penderfyniad i godi tal yw'r Parchedig Ddr Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr.
"Mae nifer o gapeli Caerdydd wedi cytuno, ers tro, gyda chais yr Eisteddfod i beidio â chynnal gwasanaethau ar fore Sul Oedfa'r Brifwyl, a chawsant eu siomi'n arw o glywed y newyddion y byddai'n rhaid talu i addoli yn yr oedfa honno."
Mae'r Eisteddfod eisoes wedi penderfynu na fydd yna gasgliad ar y Sul a bydd canran o arian sy'n cael ei gasglu wrth y fynedfa yn mynd tuag at achos da.