Fe fydd 'na dros 3,000 o y,geiswyr ar gyfer dros 1,200 o seddi
|
Fe fydd cannoedd o ymgeiswyr yn ceisio cael eu hethol yn gynghorwyr yn yr etholiadau lleol ar Fai 1.
Fe fydd y canlyniadau yn penderfynu sut y bydd gwasanaethau fel addysg, trafnidiaeth a chasglu sbwriel yn cael ei wneud gan ein cynghorau sir dros y pedair blynedd nesaf.
Gall y 22 cyngor newydd wneud penderfyniadau ar bolisïau tai, lefelau treth y cyngor, cynllunio, ffyrdd a gwasanaethau cymdeithasol.
Gall pleidleiswyr fwrw eu pleidlais mewn gorsaf bleidleisio, drwy'r post neu drwy bleidlais ddirprwyol ar gyfer y rhai sydd am i rywun bleidleisio ar eu rhan.
Mae 'na 3,266 o ymgeiswyr ar gyfer 1,264 o seddi o fewn y 22 cyngor.
Cofrestru
Ond mae angen cofrestru ar gyfer pleidleisio ac mae angen gwneud hyn drwy gysylltu gyda'r swyddfa cofrestru lleol yn y cyngor erbyn Ebrill 16.
Fe fydd gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm ddydd Iau Mai 1.
Rhaid gwneud cais am bleidlais post am y tro cyntaf drwy'r cyngor lleol erbyn 5pm Ebrill 16.
Mae gan y rhai sydd am gael pleidlais ddirprwyol tan 5pm ar Ebrill 23 i wneud cais. Mae 'na eithriadau meddygol.
Fe fydd rhai cynghorau yn cyfri'r canlyniadau ar ôl 10pm nos Iau tra bydd eraill yn aros tan ddydd Gwener.
Mae hyn yn golygu na fyddwn yn gweld y darlun llawn o'r canlyniadau
tan ddydd Gwener.
Os na fydd 'na un blaid â mwyafrif, yna mae'n bosib y bydd yn ddyddiau neu'n wythnosau cyn y byddwn yn gwybod pwy fydd yn rheoli.
Mae mwy o wybodaeth am Etholiadau Lleol 2008 yng Nghymru a'r ymgeiswyr ym mhob ardal drwy safloedd gwe y cynghorau ar y dde.