|
Guto Thomas
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru
|
Bydd aelodau newydd y cynghorau lleol yn cael eu dewis ar Fai 1
|
Mae 'na ddewisiadau di-ri yn wynebu etholwyr Cymru ar Fai 1.
Y penderfyniad cyntaf fydd cofrestru er mwyn pleidleisio ac yna defnyddio'r bleidlais ar ddiwrnod yr etholiadau lleol.
Yr ail benderfyniad fydd pa blaid neu ymgeiswyr i'w cefnogi yn eich wardiau lleol.
Ond y dewis pwysicaf o bosib, fydd pa blaid neu gyfuniad o bleidiau fydd yn rheoli'r 22 awdurdod lleol ar draws Cymru erbyn Mai 2?
Pan gafodd y rhestrau llawn o ymgeiswyr eu cyhoeddi, daeth natur y penderfyniadau anodd yma i'r amlwg - wrth i etholwyr Cymru orfod dewis eu cynrychiolwyr lleol, o restr hirfaith sy'n cynnwys 3,266 o ymgeiswyr.
Pe bai'r etholiad yn ras syml i enwebu'r nifer mwyaf posib o ymgeiswyr, yna byddai'r ras ar ben yn barod gyda'r Blaid Lafur yn fuddugol gyda 877 o ymgeiswyr.
Mae hyn yn llawer uwch na Plaid Cymru(519), Ceidwadwyr (516), y Democratiaid Rhyddfrydol (437), yr ymgeiswyr Annibynnol (718), a bron 200 o ymgeiswyr o'r pleidiau llai.
Capiau rygbi
Ond, wrth, gwrs, mae'r ornest yn llawer mwy cymhleth gan fod brwydrau a ffactorau yn effeithio ar y canlyniadau yn yr 882 o wardiau cyngor sy'n bodoli ledled Cymru.
Pwy fydd yn llwyddo yn y ras i fod yn gynghorydd lleol?
|
Ar ddechrau'r cyfnod ymgyrchu, mae'r Blaid Lafur yn rheoli saith o gynghorau lleol tra bod naw cyngor arall dan reolaeth clymbleidiau o bob lliw a llun.
Un o'r cwestiynau mwya allweddol fydd hwn - a fydd tueddiad tuag at glymbleidiau yn parhau neu a fydd Llafur yn llwyddo i adennill yr hen dir gwleidyddol?
Mae'n bosib na fydd ateb cynhwysfawr am wythnosau wedi'r etholiad.
Ond yn y cyfamser, mae ffeithiau diddorol ar gael am yr ymgeiswyr.
Cyplau priod
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r Ceidwadwyr Cymreig wedi tynnu sylw at eu hymgeiswyr ifancaf erioed, sy'n 18 oed, yng Nghonwy a Chaerdydd, tra bod Plaid Cymru wedi enwebu ymgeisydd sydd ddim ond tua 20 oed.
Ac mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi enwebu ymgeisydd enillodd gystadleuaeth "University Challenge" yn 2006 tra bod Plaid Cymru yn gwneud eu gorau glas i hysbysebu'r ffaith bod un o'u hymgeiswyr yng nghymoedd y de wedi ennill pum cap rygbi dros Gymru yn nechrau'r 1990au.
Mae o leia 14 o gyplau priod yn sefyll ar gyfer eu cynghorau lleol ac yn ardal Caerffili bydd y gŵr (sy'n gyn-Ysgrifennydd Cymru) yn gwisgo lliwiau gwleidyddol gwahanol i'w wraig.
Hefyd mae 'na nifer o enghreifftiau ble mae sawl cenhedlaeth o fewn yr un teulu i gyd am ennill eich cefnogaeth - gan gynnwys un teulu Ceidwadol yng Nghaerdydd ble bydd tair cenhedlaeth ar faes y gad mewn tair ward.
Tan y bydd 1,264 o gynghorwyr newydd wedi eu hethol, mae'n werth nodi bod saith o aelodau presennol y cynulliad yn gynghorwyr lleol, gan gynnwys un AC profiadol sydd am barhau fel cynghorydd am bedair blynedd arall o leia.
Mae pump o Aelodau'r Cynulliad yn briod â chynghorwyr, ac mae o leia un o Brif Gynghorwyr Arbennig Llywodraeth y Cynulliad yn gobeithio cael cyfle i weithredu ar lefel leol dros y Blaid Lafur.
Os oes unrhyw syniad gyda chi pwy yw'r ymgeiswyr yma, fe allai fod cyfle i chi gymryd rhan yn ein rhaglenni am ganlyniadau'r etholiad.
Anfonwch eich atebion at: Etholiadau Lleol Cymru 2008, Uned Wleidyddol BBC Cymru, Y Ganolfan Ddarlledu, Llandaf, Caerdydd, CF5 2YQ neu e-bostiwch olanilan@bbc.co.uk