Bethan Gray: Yn falch iawn o'r cyfle
|
Cynllunydd dodrefn un o siopau'r stryd fawr sy'n gyfrifol am Gadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a'r Cylch eleni.
Mae rhai wedi dweud fod gwaith Bethan Gray yn "gampwaith o ran steil fodern".
Erbyn hyn, mae'r ferch o'r ddinas yn bennaeth cynllunio dodrefn siop Habitat.
Dywedodd fod yr her i gynllunio'r Gadair yn wahanol i'w gwaith arferol, sef sicrhau mai Habitat yw'r siop â'r steil orau yn y stryd fawr.
"Roeddwn i'n fodlon iawn pan ges i'r alwad ffôn gan yr Eisteddfod - mae o'n anrhydedd mawr," meddai.
"Mae wedi bod yn lot o hwyl.
"Ac mae gen i gysylltiadau agos efo'r Eisteddfod ers pan oeddwn i yn blentyn yn mynd ar y Maes, ac wedyn yn fy arddegau yn gwersylla."
Cadair urddasol
Bu Bethan, yn wreiddiol o Benylan ac yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Glantaf, yn ymchwilio i hanes y gadair cyn dechrau'r gwaith, yn edrych ar luniau cadeiriau gwahanol ar hyd y blynyddoedd.
"Yr unig arweiniad oedd bod rhaid i'r Gadair fod yn urddasol ac yn dal efo enw'r Eisteddfod uwchben.
Cynllun Bethan Gray ar gyfer Cadair Eisteddfod Caerdydd 2008
|
"Mae'r cynllun yn cynnwys Nod Cyfrin yr Eisteddfod, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel y Nod Pelydr Goleuni."
Erbyn hyn, gall wythnos o waith i Bethan olygu bod yn y Dwyrain Pell yn edrych ar gynlluniau newydd neu eistedd tu ôl i'w desg yn Llundain yn llunio dodrefn ystafell fyw.
"Mi fydda i'n teithio bob chwe mis i lefydd fel Asia, Yr Eidal a Slofenia ac yn treulio tua thair wythnos yn mynd i ffatrïoedd i weld sut mae ein cynlluniau ni'n dod ymlaen.
"Ond mae 18 mis cyn i'r cynlluniau droi'n ddodrefn yn y siopau."
Daeth Bethan i'w swydd yn Habitat ar ôl astudio cwrs sylfaen yng Nghasnewydd ac wedyn gwrs gradd yng Nghaerlŷr.
Cefnogaeth
Eglurodd y byddai modd addasu Cadair yr Eisteddfod yn gadair gyffyrddus.
"Mi allwn ni ei haddasu ar gyfer siopau Habitat gan fod y cynllun mor hawdd.
Rhai o eitemau Bethan Gray yn siop Habitat
|
"Mae fy rheolwyr yn Habitat yn gwybod mor bwysig ydi Cymru i mi ac maen nhw wedi bod yn gefnogol tra rydw i wedi bod yn gwneud y gwaith yma.
"Mi ydw i yn edrych ymlaen at yr Eisteddfod ac i weld fy nghadair ar y llwyfan.
"Ac mi fydd yn brofiad."
Un o Sir Benfro, Alex McDonald, sy'n creu'r Gadair ac yn ei hadeiladu o dderw wedi ei liwio yn dywyll.
Fe fydd yr Eisteddfod yn y brifddinas rhwng Awst 2 a 9.