|
Guto Thomas
Uned Wleidyddol BBC Cymru
|
Does 'na ddim newid o ran oedran cynghorwyr ers yr etholiad diwethaf
|
Mae'r ymdrechion i sicrhau bod cynghorwyr cyngor sir yng Nghymru yn ifancach wedi methu, yn ôl ymchwil BBC Cymru.
Wrth gymharu oedran cynghorwyr mewn 10 o gynghorau, does dim newid wedi bod yn yr oedran ar gyfartaledd ers cyn etholiadau lleol 2004.
Mae 'na gynnydd bach wedi bod yn nifer y cynghorwyr benywaidd ond mae'r gwleidyddion lleol yma yn cynrychioli llai na chwarter y cyfanswm ar draws y wlad.
Daeth yr ystadegau i'r amlwg er gwaetha ymdrech Llywodraeth y Cynulliad bedair blynedd yn ôl i gynnig taliadau ariannol i nifer o gynghorwyr hŷn er mwyn eu hannog i ymddeol ac agor cil y drws i ymgeiswyr ifancach o gefndir mwy amrywiol.
Y canfyddiad ar y pryd oedd bod y cynghorwyr oedd yn rheoli llywodraeth leol yng Nghymru ar y cyfan yn "hen ddynion gwyn".
£1.6 miliwn
Yn 2004 derbyniodd 79 cynghorydd mewn wyth awdurdod lleol gyfanswm o £1.6 miliwn er mwyn gadael siambrau cyngor Cymru.
Arweiniodd hyn at leihad yn oedran y cynghorwyr gafodd eu hethol wedi etholiadau lleol 2004.
Ond mae ymchwil BBC Cymru'n awgrymu bod effaith gyffredinol y polisi dadleuol wedi bod yn gyfyngedig.
61 oed
Yn ôl 10 awdurdod lleol sydd wedi rhannu'r wybodaeth angenrheidiol, 61 oedd oedran y cynghorwyr ar gyfartaledd ym mis Mawrth 2004.
Bedair blynedd yn ddiweddarach, ym mis Mawrth 2008, mae'r oedran ar gyfartaledd yn yr un 10 awdurdod lleol yn dal i fod yn 61.
Ym Mlaenau Gwent ac ym Mhen-y-bont ar Ogwr roedd y cynnydd mwyaf yn oedran y cynghorwyr a'r gostyngiad amlyca ym Mhowys.
Yn ôl gwybodaeth oddi wrth 17 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, mae'r patrwm oedran yn fater ddylai achosi pryder i'r pleidiau gwleidyddol.
Mewn chwe awdurdod, doedd dim un cynghorydd yn iau na 35 oed - tra bo 396 o gynghorwyr (40.8% o'r cyfanswm) dros 65 oed.
Yng Nghymru heddiw, mae llai na 10% o gynghorwyr yn iau na 44 oed, a dim ond 3.3% o'r cyfanswm sydd yn iau na 35.
Merched
Mae ychydig o lwyddiant wedi bod o ran codi nifer y merched mewn cynghorau lleol ond mae'r sefyllfa'n newid yn eithriadol o araf.
Yn 2004 roedd 80% o gynghorwyr yn ddynion a dim ond 20% yn ferched.
Erbyn heddiw, mae 78% yn ddynion, a 22% yn ferched.
Os yw'r newid yn parhau ar yr un raddfa, fe fydd yn cymryd tua 60 mlynedd cyn sicrhau cydraddoldeb.
Ethnig
Mae'r un math o batrwm wrth ystyried nifer yr ymgeiswyr sydd o gefndiroedd ethnig lleiafrifol - heb unrhyw dystiolaeth gadarn i ddangos bod y sefyllfa'n debygol o wella.
Mae cynghorwyr Cymru'n parhau ar y cyfan felly i fod yn "hen ddynion gwyn".
Ond ar Fai 1, fe allai'r sefyllfa yma newid a'r prif bleidiau gwleidyddol yn mynnu eu bod yn gwneud eu gorau i gyflwyno mwy o ymgeiswyr nag erioed o gefndiroedd ethnig.
Dydd Mawrth, daeth cadarnhad y bydd ymhell dros 3,000 o bobl yn brwydro am seddi cyngor, mewn 22 o awdurdodau lleol.
Mae hawl gan etholwyr Cymru i gofrestru i bleidleisio tan Ebrill 16.