BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 9 Ebrill 2008, 10:39 GMT 11:39 UK
Plaid yn cynnig 'chwyldro lleol'
Plaid Cymru
Mae 'na wyth polisi penodol yn y maniffesto

Mae Plaid Cymru yn addo chwyldroi'r ffordd mae cynghorau'n taclo problemau anodd gyda "syniadau cyffrous" wrth lansio'i maniffesto ar gyfer yr etholiadau lleol.

Yn ôl arweinydd y blaid, Ieuan Wyn Jones, mae o am droi cynghorau sy'n cael eu rheoli gan Blaid Cymru yn "labordai arloesedd".

Dywedodd Mr Jones ei bod hi'n "gyfnod cyffrous i Blaid Cymru".

Mae'n hyderus y bydd y blaid yn ennill tir yn yr etholiad ar Fai 1af.

Fe wnaeth y blaid lansio'i maniffesto ar gyfer yr etholiadau yng Nghanolfan y Mileniwm ddydd Mercher.

Wyth polisi

Mae ymgyrch Plaid yn canolbwyntio ar wyth polisi penodol gan gynnwys annog cynlluniau lleol i greu ynni gwyrdd.

Biniau tanddaearol ar gyfer datblygiadau busnes a thai newydd yw un o'r syniadau gwyrdd eraill.

Mae'r blaid hefyd eisiau annog cynlluniau i rannu teithiau mewn ceir.

Gan barhau â'r pwyslais ar yr amgylchedd mae 'na addewid i ryddhau tir cyhoeddus i'w droi'n rhandiroedd neu erddi cymunedol.

"Erbyn 2012 fe fydd pob bws ysgol o fewn awdurdod lleol fydd yn cael ei reoli gan Plaid yn cyrraedd safonnau allyriadau Ewrop," meddai Helen Mary Jones AC Llanelli.

"Mae cyrraedd y targedau carbon yn holl bwysig i ni."

Arloesedd

Mae Plaid Cymru yn rheoli Cyngor Gwynedd ond mae ganddi rôl hefyd yn rhedeg awdurdodau Conwy, Sir Ddinbych a Bro Morgannwg lle nad oes un plaid yn rheoli.

Dywedodd yr Aelod Seneddol Adam Price, cyfarwyddwr etholiadau Plaid, bod angen arloesedd ar gyfer trawsnewid diwylliant llywodraeth leol.

Eglurodd bod rhaglen y blaid yn canolbwyntio ar y ddau brif her wleidyddol sef iechyd cyhoeddus a'r amgylchedd.

"Mae'r polisïau yma yn chwyldroadol i'w cymharu â'r ffordd mae nifer o gynghorau Cymru yn cael eu gweinyddu", meddai.

"Ond maen nhw'n wedi eu profi yn effeithiol ar draws y byd."



Etholiadau Lleol 2008

NEWYDDION

CANLYNIADAU

Map Etholiadau Lleol 2008 Map 2008
Map o'r canlyniadau o bob awdurdod yng Nghymru

Logo Etholiad 2008 Y Canlyniadau
Y manylion yn llawn o bob cyngor sir yng Nghymru

Canlyniadau etholiadau lleol Cymru

  Cynghorwyr Cynghorau
Ar ôl cyhoeddi canlyniadau 22 allan o 22 gynghorau.
Llaf -124 342 -6 2
Ceid 63 174 1 2
PC 31 205 -1 0
DemRh 21 162 0 0
Eraill 9 381 0 0
DRhL - - 6 18

CEFNDIR
MAES Y GAD

DECHRAU'R FRWYDR

Y CYNGHORAU
 


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^