BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 3 Ebrill 2008, 07:18 GMT 08:18 UK
Torïaid: Adeiladu ar lwyddiant?
Darllen maniffesto'r Ceidwadwyr
Mae'r blaid am gadw'r momentwm gafwyd y llynedd

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud y bydden nhw'n targedu pob cwr a chornel o Gymru wrth iddyn nhw lansio eu hymgyrch ar gyfer yr etholiadau lleol mis Mai ddydd Iau.

Fe fydd y Ceidwadwyr yn gobeithio y gallan nhw adeiladu ar eu canlyniadau cryf ym mholau piniwn y Deyrnas Unedig yn y misoedd diwethaf.

Yn lansiad yr ymgyrch, sydd yn cael ei gynnal yng Nghlwb Criced Morgannwg yng Nghaerdydd, fe fydd y blaid yn datgan eu bod nhw'n ymladd mwy o seddi nag erioed.

Ar hyn o bryd, dim ond un cyngor sydd dan reolaeth y Ceidwadwyr sef Mynwy.

Ond fe fydden nhw hefyd yn targedu Bro Morgannwg, yn ogystal â nifer o seddi eraill ar draws Cymru.

Dywedodd llefarydd bod y blaid yn canolbwyntio ar faterion sydd o bwys i bobl Cymru.

Yn yr etholiad yn 2004 dim ond 27% o wardiau y buon nhw'n ei ymladd ac mae'r blaid yn cyfaddef mai llywodraeth leol yw eu man gwanaf yng Nghymru.

'Cadarnleoedd'

Dywedodd llefarydd Llywodraeth Leol y Ceidwadwyr, Nick Ramsay, bod y blaid wedi "ennill mwy o seddi a mwy o bleidleisiau ym mhob etholiad yng Nghymru ers 1999".

"Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn benderfynol o barhau i symud ymlaen gyda'r momentwm a adeiladwyd yn etholiadau'r Cynulliad y llynedd," meddai.

Dywedodd Mr Ramsay bod y blaid yn ennill pleidleisiau oddi ar y tair plaid arall mewn "cadarnleoedd Cymreig, ardaloedd gwledig, trefi a dinasoedd".

"Rydym yn ymrwymo i ganolbwyntio ar y pynciau sydd o bwys i bobl - cefnogaeth ar gyfer cymunedau a gwasanaethau lleol, strydoedd saffach ac amgylchedd mwy gwyrdd," meddai.

Yn ystod cynhadledd y blaid yn Llandudno fis diwethaf dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Nick Bourne ei fod eisiau gwneud "cynnydd sylweddol" yn yr etholiadau lleol.

Fe bwysleisiodd y bydden nhw'n gwneud hyn trwy "rymuso pobl a chymunedau" gan mai "pobl nid llywodraethau sydd yn gwybod beth maen nhw wir angen".



Etholiadau Lleol 2008

NEWYDDION

CANLYNIADAU

Map Etholiadau Lleol 2008 Map 2008
Map o'r canlyniadau o bob awdurdod yng Nghymru

Logo Etholiad 2008 Y Canlyniadau
Y manylion yn llawn o bob cyngor sir yng Nghymru

Canlyniadau etholiadau lleol Cymru

  Cynghorwyr Cynghorau
Ar ôl cyhoeddi canlyniadau 22 allan o 22 gynghorau.
Llaf -124 342 -6 2
Ceid 63 174 1 2
PC 31 205 -1 0
DemRh 21 162 0 0
Eraill 9 381 0 0
DRhL - - 6 18

CEFNDIR
MAES Y GAD

DECHRAU'R FRWYDR

Y CYNGHORAU
 


HEFYD
Torïaid: Pwysleisio eu Cymreictod
29 Chwef 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^