BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 2 Ebrill 2008, 09:29 GMT 10:29 UK
Rhybudd German i'r Blaid Lafur
Mike German
Mike German am i'w blaid wneud mwy na chadw grym
Mae "teyrnasiad" Llafur ar gynghorau Cymru ar ben, yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Mike German.

Cyn lansio ymgyrch etholiadau lleol ei blaid ddydd Mercher, dywedodd fod y cynghorau sy'n cael eu rheoli gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn "saffach, yn fwy gwyrdd" ac yn cynnig "gwell gwerth am arian".

Fe fydd y lansiad yng Nghasnewydd yn amlinellu uchelgais y blaid ar gyfer etholiadau Mai 1.

Dywedodd llefarydd fod y blaid "yn barod i frwydro" yn lle dim ond cadw gafael ar rym ym Mhen-y-bont, Caerdydd, Abertawe a Wrecsam.

Mae'r blaid yn arwain gweinyddiaeth leiafrifol yng Nghaerdydd.

Yn Abertawe, Wrecsam a Phen-y-bont maen nhw'n rheoli mewn clymblaid gyda phleidiau eraill.

Y Blaid Lafur oedd yn rheoli'r pedwar cyngor cyn yr etholiadau lleol diwethaf yn 2004.

Fe ddywedodd Mr German fod ei blaid yn dal i ennill tir mewn awdurdodau lleol yng Nghymru.

'Mwy gwyrdd'

"Mae teyrnasiad Llafur ar awdurdodau lleol yng Nghymru yn dod i ben," meddai.

"Ac mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ymladd yn eu herbyn yn ninasoedd a threfi Cymru - ac rydyn ni'n ennill.

"Ers i ni ddechrau rheoli Caerdydd, Abertawe, Pen-y-bont a Wrecsam, rydyn ni wedi dangos ein bod ni'n gallu darparu dewis saffach, mwy gwyrdd a chynnig gwell gwerth am arian," meddai Mr German.

Mae maniffesto'r blaid, sy'n cael ei lansio ddydd Mercher, yn honni bod y Democratiaid Rhyddfrydol "ar y blaen" wrth sicrhau cymunedau saffach, darparu ailgylchu a chadw codiadau treth cyngor yn isel.

Dywedodd Mr German fod nifer cynghorwyr y Democratiaid Rhyddfrydol wedi codi 50% yn 2004.

"Rydyn ni'n ymgyrchu'n galed ar gyfer cynnydd pellach, ym mhob cyngor ym mhob rhan o Gymru," meddai.



Etholiadau Lleol 2008

NEWYDDION

CANLYNIADAU

Map Etholiadau Lleol 2008 Map 2008
Map o'r canlyniadau o bob awdurdod yng Nghymru

Logo Etholiad 2008 Y Canlyniadau
Y manylion yn llawn o bob cyngor sir yng Nghymru

Canlyniadau etholiadau lleol Cymru

  Cynghorwyr Cynghorau
Ar ôl cyhoeddi canlyniadau 22 allan o 22 gynghorau.
Llaf -124 342 -6 2
Ceid 63 174 1 2
PC 31 205 -1 0
DemRh 21 162 0 0
Eraill 9 381 0 0
DRhL - - 6 18

CEFNDIR
MAES Y GAD

DECHRAU'R FRWYDR

Y CYNGHORAU
 


HEFYD
Clegg: 'Canrif o gamreoli Llafur'
23 Chwef 08 |  Newyddion
Swydd newydd i German
05 Tach 07 |  Newyddion
Lembit yn rhoi'r gorau iddi
13 Hyd 07 |  Newyddion
'Dim trafod â phlaid German'
02 Gorff 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^