Bydd yn rhaid i bobl sy'n mynychu'r Oedfa dalu wrth fynd i'r Maes.
|
Mae aelod blaenllaw o Undeb yr Annibynwyr wedi beirniadu penderfyniad yr Eisteddfod Genedlaethol i godi tâl i fynd i'r Oedfa ar y dydd Sul - y tro cynta i hyn ddigwydd.
Dywedodd y Dr Hefin Jones ar raglen Post Cynta BBC Cymru fod o'n 'warth o beth i orfod talu am yr hawl i gael addoli.'
Yn y gorffennol doedd dim tâl mynediad yn cael ei godi ar bobl oedd yn cyrraedd y Maes cyn 10.00 ar fore Sul.
Dywed yr Eisteddfod eu bod wedi gorfod newid y rheolau oherwydd bod pobl eraill yn manteisio ar y rheol ac yn camymddwyn, gyda rhai yn lladrata o'r Maes.
Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ym mis Awst.
Yn ôl Elfed Roberts, prif weithredwr yr Eisteddfod, y polisi nawr yw codi tal (£9 i oedolion ar ddydd Sul) ar bawb gydol yr wythnos.
"Rydym eisiau sicrwydd fod pawb sy'n dod i'r Maes a rheswm cyfreithiol i fod yna."
Ond dywed Dr Jones fod hyn yn groes i egwyddor sylfaenol, sef y rhyddid i addoli heb dalu unrhyw bris.
"Rwy'n teithio llawer o'r byd efo'm gwaith, bum yn China a Rwsia lle'r oedd llawr o Gristnogion yn cael eu herlid, bum yng ngwledydd y Dwyrain Canol lle mae lleiafrif bach iawn yn Gristnogion.
Camymddwyn
"Yr eironi mawr yw na godwyd tâl arnaf erioed i fynychu'r un oedfa yn y gwledydd yma.
"Ond dyma ni yng Nghymru, yn ein gŵyl genedlaethol yn gorfod talu am gael am addoli"
Dywed yr Eisteddfod fod yna broblem efo bobl eraill sy'n cymryd mantais o fynediad am ddim ar y Sul.
"Yn y gorffennol mae pobl yn dod i'r Maes ar adegau pan nad oeddwn i'n codi tâl ac mae hyn wedi arwain i gamymddwyn a drwgweithredu," meddai Mr Roberts.
"Ar y bore Sul mae yna gannoedd o bobl yn heidio i'r maes er mwyn cael mynd am ddim a rhan fwyaf o'r rhain a dim gronyn o ddiddordeb i fynd i'r oedfa."
Achos da
Dywedodd fod yna broblem ar ôl 10am wrth geisio perswadio Eisteddfodwyr eraill bod yn rhaid iddyn nhw dalu pris mynediad.
"Ar ôl 10 o'r gloch wrth geisio codi tal roedd pobl yn anhapus i dalu." meddai.
Dywedodd y Parchedig Dr Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynnwr, y dylai'r elw sy'n cael ei wneud gael ei roi i elusen Gristnogol.
"Gallai'r elw fod cymaint â £27,000," meddai.
"Gan mai son am arian fydd Cristnogion yn gorfod ei dalu am fynychu gwasanaeth Cristnogol yr ydym, dylid sicrhau mai elusen Gristnogol sy'n elwa."
Dywedodd Mr Roberts eu bod eisoes wedi penderfynu na fydd yna gasgliad ar y Sul a bydd canran o arian sy'n cael ei gasglu wrth y fynedfa yn mynd tuag at achos da.