|
Vaughan Roderick
Golygydd Materion Cymreig
|
Fe fydd yr etholiadau ar Fai 1
|
Diwrnod Llafur yw Calan Mai a go brin y byddai unrhyw un wedi herio'r gosodiad ar y dyddiad hwnnw yn 1997 pan ysgubwyd Tony Blair i mewn i Downing Street.
Gallai Mai 1 2008 fod yr un mor arwyddocaol i Lafur Cymru, ond y tro hwn am resymau gwahanol.
Mae'n bosib y bydd y dyddiad hwnnw yn cael ei gofio fel y dydd y daeth teyrnasiad hir y blaid yn siambrau ein cynghorau i ben.
Yn barod, mae Llafur yn rheoli llai na thraean o'n cynghorau ac fe fyddai colli llond dwrn o seddi yn ddigon i dorri eu gafael ar gynghorau fel Sir y Fflint, Casnewydd, Caerffili a Chastell-nedd Port Talbot.
Poblogrwydd
Os yw canlyniadau arolygon barn Brydeinig yn cael eu hadlewyrchu yn yr ardaloedd hynny, mae sefyllfa Llafur yn fregus.
Ond etholiadau lleol yw'r rhain wedi cyfan ac fe fydd rhaid i'r Ceidwadwyr, yn fwyaf arbennig, brofi eu bod yn gallu troi poblogrwydd yn y polau yn bleidleisiau go iawn.
O leia mae angen i'r blaid gadw gafael ar Sir Fynwy a sicrhau mwyafrif ym Mro Morgannwg yn ogystal â chryfhau presenoldeb yn ninasoedd y de.
Byddai llwyddiant o'r fath yn peryglu'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Ar ôl ennill tir yn sylweddol bedair blynedd yn ôl, amddiffyn eu tir y mae'r blaid y tro hwn.
Dryllio
Fe fyddai parhau mewn grym yng Nghaerdydd, Pen-y-bont, Abertawe a Wrecsam yn dipyn o gamp.
Pe bai'r blaid yn gallu dryllio'r mwyafrif Llafur yng Nghasnewydd fe fyddai'r aelodau wrth eu boddau.
Fe fydd amddiffyn penderfyniadau anodd eu cynghorau yn broblem i'r Democratiaid Rhyddfrydol ac mae Plaid Cymru yn wynebu tasg ddigon tebyg yng Ngwynedd yn sgil y cynllun ad-drefnu ysgolion.
Nid plaid arall sy'n peryglu'r cenedlaetholwyr a gallai hynny wneud y frwydr yn anoddach.
Mae'r un broblem yn wynebu Llafur ym Mlaenau Gwent lle bydd Llais y Bobol yn ceisio adeiladu ar eu llwyddiannau yn etholiadau San Steffan a'r cynulliad drwy gipio'r cyngor lleol.
Beth bynnag sy'n digwydd ar Fai 1, mae'n annhebyg y bydd gan unrhyw un blaid fwyafrif yn y rhan fwyaf o ardaloedd.
Fe fydd angen dyddiau ac wythnosau o drafod cyn i ni wybod pwy yn union fydd yn rhedeg ein gwasanaethau lleol am y pedair blynedd nesaf.