Mae disgwyl mwy na 160,000 o ymwelwyr i'r Maes
|
Mae swyddogion yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd yn addo'r "croeso mwyaf eto i ddysgwyr a'r di-Gymraeg".
Bydd pabell y dysgwyr - Maes D - yn cael ei chodi er mwyn trefnu digwyddiadau arbennig i'r nifer gynyddol o ddysgwyr sydd i'w disgwyl yn yr ŵyl rhwng Awst 2-9.
Bydd llyfryn i helpu dysgwyr allu mwynhau yr ŵyl yn cael ei baratoi ac yn cael ei ddosbarthu am ddim yng Nghaerdydd a'r cylch yn yr wythnosau cyn yr Eisteddfod.
Mae disgwyl mwy na 160,000 o ymwelwyr i'r Maes, a bydd nifer dda o ddysgwyr yn eu plith.
Dywedodd Gwenllian Willis, swyddog dysgwyr yr Eisteddfod: "Mae 25,324 o ddysgwyr wedi eu cofrestru ar draws Cymru ac 926 yng Nghaerdydd. Rydan ni eisiau gwneud yn siŵr y byddan nhw yn mwynhau eu hymweliad â'r Eisteddfod ac yn cael digon o ddewis o ddigwyddiadau.
"Rydan ni eisiau codi ymwybyddiaeth o'r iaith yng Nghaerdydd a'r cylch ac eisiau denu cymaint o bobl â phosibl i gael gweld beth sydd ar gael."
Mae cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn dathlu ei phenblwydd yn 25 oed y flwyddyn hon. Cynhelir y rownd gynderfynol yng Nghanolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd, cynhelir noson Dysgwr y Flwyddyn yng Nghastell Caerdydd a bydd parti mawr i ddathlu'r gystadleuaeth yn 25 oed ym Maes D yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
Os hoffech chi gystadlu yn y gystadleuaeth hon neu yn gwybod am unrhywun rydych chi'n credu sy'n haeddu'r wobr, cysylltwch â Gwenllian Willis yn Swyddfa'r Eisteddfod ar 029 20 763777 neu e-bostiwch hi ar gwenllian@eisteddfod.org.uk