Paul Murphy: Am daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol
|
Taclo trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol fydd prif flaenoriaeth Llafur Cymru wrth iddyn nhw ymgyrchu ar gyfer yr etholiadau lleol.
Cafodd yr ymgyrch ei lansio yn Stadiwn Liberty, Abertawe gan Brif Weinidog Cymru Rhodri Morgan, Ysgrifennydd Cymru Paul Murphy ac arweinydd grŵp Llafur yng nghymdeithas llywodraeth leol Cymru Derek Vaughan.
Prif darged y blaid yn yr etholiadau ar Fai 1 fydd y cynghorau wedi eu rheoli gan y Democratiaid Rhyddfrydol.
Ond maen nhw'n addo brwydro yn erbyn Plaid Cymru er gwaetha'r glymblaid yn y cynulliad.
Mae Llafur Cymru yn dweud eu bod nhw wedi ceisio barn cymunedau ar draws Cymru - a'r prif bryder yw trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
'Deddfau cryf'
Yn ôl Mr Murphy, fe fydd cynghorau Llafur yn addo defnyddio eu holl bwerau i daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol.
"Mae'r Llywodraeth Lafur wedi cyflwyno deddfau cryf newydd i ddelio â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
"Ond nawr mae'n amser i gynghorau lleol ddefnyddio pob pŵer posib i sicrhau bod gan y mwyafrif sy'n cadw at y gyfraith berchnogaeth o'u cymunedau."
Fe fydd hyn yn golygu cau siopau sy'n gwerthu alcohol i blant dan 18 a chau tafarndai sydd â phroblemau trosedd a chyffuriau.
Mae Llafur yn addo cynyddu timau heddlu cymunedol er mwyn delio ag ardaloedd ble mae trosedd yn broblem.
'Partneriaeth gref'
Fe fydd Mr Murphy'n pwysleisio'r "bartneriaeth gref" rhwng y Blaid Lafur yn yr awdurdoadu lleol, y cynulliad a San Steffan.
Dywedodd y Cyng Derek Vaughan mai "dim ond partneriaeth y blaid Lafur rhwng ein awdurdodau lleol a'n llywodraethau yn y Cynulliad a San Steffan sydd yn gallu sicrhau canlyniadau go iawn i Gymru".
Yn ystod y lansiad fe ddywedodd Rhodri Morgan bod pobl eisiau newid gan gyhuddo cynghorau'r Democratiaid Rhyddfrydol o fod yn "ddi-glem".
"Dyna y gallwn ni ei addo - cynghorau lleol da sydd yn deall pryderon pobol ac sy'n llwyddo i gael canlyniadau ar lawr gwlad", meddai.
'Bob cam o'r ffordd'
Mae Mr Murphy eisioes wedi dweud y bydd Llafur yn brwydro "bob cam o'r ffordd" yn erbyn Plaid Cymru yn yr etholiadau.
Yn eu cynhadledd ym mis Chwefror fe ddywedodd na fyddai'r llywodraeth glymblaid ym Mae Caerdydd yn golygu fod yna gytundeb ehangach rhwng y ddwy blaid.
"Peidiwch â gadael i unrhyw un ddweud wrthych na fyddwn yn ymgyrchu mor galed ag erioed yn erbyn Plaid Cymru," meddai.
Ar hyn o bryd mae Llafur yn rheoli saith gyngor ond nod y blaid fydd ceisio adennill cynghorau Abertawe, Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a Wrecsam oddi wrth y Democratiaid Rhyddfrydol.
Fe fydd y blaid yn gobeithio cadw rheolaeth ar Torfaen, Rhondda Cynon Taf a Nedd Port Talbot.
Ond gallai rheoli cynghorau Sir Fflint, Casnewydd, Caerffili a Blaenau Gwent o hyd fod yn fwy o her.
Fe fydd etholiadau ar gyfer 22 o gynghorau lleol Cymru yn cael eu cynnal ar Fai 1.