BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 26 Mawrth 2008, 16:04 GMT
'Deunydd melyn': Cau traeth
Traeth Cwmtydu (Llun: Rod Attrill)
Deunawfed ganrif: Smyglwyr yn cuddio brandi
Mae cyngor wedi dweud y gallai deunydd melyn gafodd ei olchi ar draeth poblogaidd fod yn saim llysiau.

Fe gafodd traeth Cwmtydu ger Cei Newydd ei gau ddydd Mawrtth.

Dywedodd Cyngor Sir Ceredigion fod deunydd tebyg wedi cael ei olchi ar draethau yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe.

Roedd profion yn cael eu cynnal, meddai llefarydd, ac roedd disgwyl y byddai swyddogion yn derbyn canlyniadau yn ddiweddarach.

Ddydd Mawrth llwyddodd swyddogion iechyd yr amgylchedd a dynion tân oedd yn gwisgo dillad diogelwch i glirio'r deunydd.

'Dadansoddi'

Mae'r cyngor wedi dweud fod y deunydd yn "drewi".

"Ac mae'n ymddangos fod y deunydd ar draeth Cwmtydu yn debyg i'r hyn gafodd ei olchi ar darethau eraill yn y gorllewin a'r de," meddai llefarydd.

"Ar hyn o bryd ry'n ni'n dadansoddi'r deunydd.

"Os yw ymwelwr yn dod ar draws mwy o'r deunydd ar draethau Ceredigion, ni ddylai drafod y deunydd."

Fe gafodd creigiau Cwmtydu eu ffurfio 400 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn y cyfnod Silwraidd.

Roedd smyglwyr yn cuddio brandi yn yr ogofâu yn y ddeunawfed ganrif.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^