BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 26 Mawrth 2008, 12:03 GMT
Ford: Gwerthu yn 'diogelu swyddi'
logos Jaguar a Land Rover
Rhoddwyd Jaguar a Land Rover ar werth gan Ford ym Mehefin y llynedd
Mae cwmni Ford yn gwerthu Land Rover a Jaguar i gwmni Tata o India.

Fe fydd y cytundeb gwerth tua biliwn o bunnau yn diogelu swyddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr am o leiaf bedair blynedd.

Mae disgwyl y bydd y cyhoeddiad yn diogelu swyddi am ddau reswm.

Yn gyntaf, mae Tata yn ymrwymo i ddilyn y cynllun pum mlynedd presennol i fuddsoddi a datblygu y busnesau cynhyrchu ceir. Mae Jaguar a Rover yn cyflogi tua 16,000 o bobl, y rhan fywaf yng ngaholbarth Lloegr ac yn Halewood ger Lerpwl.

Yn ail, bydd Tata yn ymrwymo i brynu peiriannau a chyd-rannau eraill o Ford tan o leiaf 2012, ac fe ddylai hynny ddiogelu ffatrioedd Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Dagenham.

Rhoddwyd Jaguar a Land Rover ar werth gan Ford ym Mehefin y llynedd.

Agorodd cwmni Ford y ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn 1980, ac erbyn hyn mae tua 2,000 o bobl yn gweithio yno.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^