BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 20 Mawrth 2008, 07:07 GMT
E.coli: Mam wedi ei 'syfrdanu'
Mason Jones
Bu farw Mason Jones, pump oed

Mae mam y bachgen 5 oed fu farw o E.coli yn dweud ei bod hi wedi'i "syfrdanu" gan y dystiolaeth glywodd hi drwy gydol yr ymchwiliad cyhoeddus i'r achosion o'r afiechyd.

Roedd Mason Jones yn un o dros gant a hanner o bobl a gafodd eu taro'n wael, ar ôl i'r haint gael ei ledu mewn cig a werthwyd i ysgolion yn 2005.

Ddydd Mercher oedd diwrnod ola'r grandawiadau.

Dywedodd Sharon Mills, mam Mason Jones, ei bod yn anoddach nag erioed iddi hi dderbyn marwolaeth ei mab wedi iddi glywed y dystiolaeth yn yr ymchwiliad: "Mae'r system gyfan wedi ein gadael i gyd i lawr yn ofnadwy, yn arbennig Mason".

Adroddiad

Bydd yr Athro Pennington, sy'n cadeirio'r ymchwiliad, nawr yn canolbwyntio ar ysgrifennu ei adroddiad er mwyn ceisio sicrhau na fydd yr un peth yn digwydd eto.

Yn gynharach yr wythnos hon clywodd yr ymchwiliad bod milfeddygon wedi cael cyfarwyddyd i beidio â bod yn llawdrwm wrth ddelio â pherchennog lladd-dy J E Tudor.

Lladd-dy J E Tudor yn Nhreorci
Amodau o fewn y lladd-dy

Hwn oedd y lladd-dy yn Nhreorci, Y Rhondda, oedd yn cyflenwi cig i gwmni William Tudor oedd yn gyfrifol am y gwenwyn bwyd yn 2005.

Clywodd yr ymchwiliad fod cyfres o adroddiadau yn 2003 a 2004 yn cyfeirio at broblemau dro ar ôl tro, gan gynnwys ffenestri wedi torri oedd yn arwain at "bla o bryfed".

'Y gwaetha'

Dydd Llun clywodd yr ymchwiliad taw record glendid y lladd-dy oedd y "waetha yng ngwledydd Prydain".

Dim ond 11 allan o 100 y sgoriodd y lladd-dy mewn asesiad yn 1994.

Fe gafodd argymhelliad y dylai'r lladd-dy golli eu trwydded ei wrthod yn 1994 gan Ysgrifennydd Cymru John Redwood.

Bu farw Mason Jones yn yr ysbyty ar Hydref 4, 2005.

Cafodd dros 150 o bobl eu taro'n wael gan yr haint, y mwyafrif ohonyn nhw'n blant.

Bu rhaid i 31 o bobl gael triniaeth yn yr ysbyty.



HEFYD
Lladd-dy: 'Ddim yn llawdrwm'
18 Maw 08 |  Newyddion
E.coli: Diffygion cyfathrebu
05 Maw 08 |  Newyddion
Cigydd E.coli yn 'hybu' busnesau
28 Chwef 08 |  Newyddion
E.coli: Dim archwiliad wedi cais
27 Chwef 08 |  Newyddion


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^