 |
Ryan Jones yn dathlu gyda'r tîm
|
Mae miloedd o gefnogwyr yn dathlu ar ôl gweld Cymru'n cipio'r Gamp Lawn wrth guro Ffrainc o 29 pwynt i 12 yng Nghaerdydd.
Dyma ail Gamp Lawn Cymru mewn pedwar tymor a hynny llai na chwe mis ers cael eu trechu yn rownd gynta Cwpan Rygbi'r Byd gan Fiji.
Roedd 'na filoedd hefyd yn gwylio'r cyfan ar sgrin fawr yng nghanol y ddinas.
Fe wnaeth Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru arwain y teyrngedau i'r tîm gan ddweud bod hyn yn "well na 2005" pan enillodd Gymru'r Gamp Lawn ddiwethaf.
Ffrainc oedd y gwrthwynebwyr yn Stadiwm y Mileniwm, tîm oedd hefyd â'r cyfle i gipio'r Bencampwriaeth.
Roedd 'na dorf o 74,609 yn y stadiwm oedd efo'r to ar gau oherwydd y glaw a miloedd mwy yn y ddinas yn gweld y crysau coch yn ennill y bencampwriaeth a'r Gamp Lawn.
Hyfforddwr balch
Wythnos ar ôl i Gymru ennill y Goron Driphlyg yn Iwerddon fe wnaeth Tywysog William, Noddwr Undeb Rygbi Cymru, gyflwyno Tlws y Bencampwriaeth i Gapten Cymru, Ryan Jones, i fonllefau o gymeradwyaeth.
Cafodd tîm Cymru eu harwain i'r maes ddydd Sadwrn gan Manon a Gwenan Gravell, merched y cyn-chwaraewr rhyngwladol Ray Gravell, oedd yn cario'r Goron Driphlyg.
Roedd hyn 30 mlynedd ers i'w tad gipio'r Gamp Lawn yn erbyn Ffrainc.
Shane Williams yn sgorio'r cais yn erbyn Ffrainc
|
Dyma dymor cyntaf Warren Gatland wrth y llyw.
"Mae'n rhywbeth arbennig iawn," meddai Gatland ar ôl y gêm.
"Mae'r chwaraewyr wedi cael amser anodd dros y misoedd diwethaf ond dwi'n falch o'u gweld yn cael y wobr am eu gwaith caled.
"Mae ganddyn nhw hunanhyder a dwi'n falch iawn."
Un o sêr y gêm oedd Shane Williams.
Fo gafodd gais cynta'r gêm, sy'n golygu ei fod wedi pasio'r record o'r nifer mwya o geisiau dros Gymru gyda 41.
Llwyddiant
Hefyd Williams sydd wedi sgorio'r nifer mwya o geisiau yn y bencampwriaeth eleni sef chwech.
Martin Williams gafodd y cais arall a fo gafodd ei enwi fel seren y gêm.
Dywedodd Stephen Jones, maswr Cymru, ei fod yn falch iawn o'r fuddugoliaeth ddydd Sadwrn ar ôl "siom Cwpan y Byd".
Y dorf yn Stadiwm y Mileniwm yn dathlu ennill y Gamp Lawn
|
"Rydym wedi llwyddo i droi pethau ac mae'n deimlad arbennig iawn."
Dywedodd Rhodri Morgan bod yr hyn y mae Warren Gatland a Shaun Edwards wedi ei wneud efo'r tîm yr un fath a'r dyddiau euraidd 30 mlynedd yn ôl.
"Fe fydd y Gamp Lawn yma yn gwneud cymaint i Gymru fel gwlad fach.
"Gallwn ddweud yn falch nawr ein bod yn bencampwyr Ewrop a phencampwyr hemisffer y gogledd."
Ar ôl y fuddugoliaeth dywedodd Rhodri Glyn Thomas, Gweinidog Chwaraeon Cymru. bod hwn yn ganlyniad gwych i Gymru.
"Dwi'n llongyfarch pawb oedd yn gysylltiedig gyda'r tîm ar eu buddugoliaeth.
"Fe ddylai pob un fod yn falch iawn o'u llwyddiant."
Un cwpl gafodd ddathliad dwbl ddydd Sadwrn yw Michelle Lewis a Matthew Edwards o Ferthyr Tudful, a oedd yn priodi cyn y gic gyntaf.
Cyfarfu'r ddau y tro diwethaf i Gymru ennill y Gamp Lawn yn 2005 wrth wylio'r gêm yn nhafarn y Llew Gwyn yn Aberdâr.