BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 13 Mawrth 2008, 08:24 GMT
Dangos gm Cymru ar sgrin fawr
Digwyddiad sgrn fawr yng Nghaerdydd
Fe fydd 'na le i 7,000 o gefnogwyr yn y ganolfan ddinesig

Fe fydd cefnogwyr rygbi sydd heb docyn i gm y Gamp Lawn ddydd Sadwrn yn Stadiwm y Mileniwm yn cael cyfle i wylio'r cyfan ar sgrin fawr.

Mae BBC Cymru, Cyngor Caerdydd a Heddlu De Cymru wedi paratoi digwyddiad teuluol cyfeillgar yn y ganolfan ddinesig.

Fe fydd sgrin fawr yno i ddangos holl ddigwyddiadau'r gm yn erbyn Ffrainc a'r ddwy gm arall ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae'r cyfan yn rhad ac am ddim ar sail y cynta i'r felin.

"Mae'r sgrin fawr yn cynnig cyfle i gyfuno holl ddarpariaeth byw'r BBC o'r bencampwriaeth gyda'r awyrgylch drydanol sydd i'w ddisgwyl yn y ddinas," meddai Nigel Walker, pennaeth Chwaraeon BBC Cymru.

"Gall cefnogwyr fwynhau holl gyffro'r gm, sylwebaeth arbenigwyr a hynny o fewn clyw i'r stadiwm ei hun."

Diogelwch

Roedd miloedd o gefnogwyr yn y ganolfan ddinesig, ar Rhodfa Brenin Edward VII, yn 2005 ar gyfer llwyddiant Camp Lawn tm Cymru.

Fe fydd modd i 7,000 o bobl fwynhau'r awyrgylch yno eleni.

"Mae 'na awyrgylch gwych o hyd yng Nghaerdydd ar ddiwrnod gm," meddai'r cynghorydd Nigel Howells, sy'n dal portffolio hamdden a thwristiaeth.

"Rydym am sicrhau bod cymaint phosib o bobl yn cael cyfle i weld Cymru yn trechu Ffrainc i gipio'r Gamp Lawn eleni mewn awyrgylch cyfeillgar a theuluol."

Cymru'n dathlu ar l ennill y Goron Driphlyg eleni
Eisoes mae Cymru wedi ennill y Goron Driphlyg eleni

Fe fydd hi'n ddiwrnod prysur i Heddlu De Cymru gyda disgwyl y bydd degau ar filoedd o gefnogwyr yn y ddinas.

Ond dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Josh Jones eu bod yn croesawu'r sgrin fawr.

"Fe fydd hi'n wych bod yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn," meddai.

"Fe fydd staff yn ardal y sgrin fawr er mwyn rheoli'r dorf ac i sicrhau diogelwch y dorf.

"Ein cyngor ydi i bobl gyrraedd y ddinas mewn da bryd, i fod yn ofalus ac i sicrhau diogelwch eu cerbydau ac eiddo personol er mwynhau'r awyrgylch carnifal yng Nghaerdydd."

Os na allwch chi gyrraedd Caerdydd mae modd gwylio a gwrando ar y gm ar radio a theledu.

Fe fydd Radio Cymru yn darlledu'r gm - sy'n dechrau am 5pm - yn ystod eu rhaglen Camp Lawn (2pm-7.30pm) ac fe fydd rhaglen Y Clwb Rygbi Rhyngwladol i'w gweld ar S4C am 4.05pm ddydd Sadwrn.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^