BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 8 Mawrth 2008, 12:09 GMT
Cymru'n cipio'r Goron Driphlyg
Shane Williams
Yn deifio yn y gornel: Shane Williams
Mae Cymru wedi ennill y Goron Driphlyg wedi buddugoliaeth yn erbyn Iwerddon yn Croke Park yn Nulyn.

Y sgôr oedd 12-16 er bod Iwerddon ar y blaen o 6-3 hanner amser.

Ond yn yr ail hanner roedd Cymru'n aml â'r llaw ucha a sgoriodd yr asgellwr Shane Williams ei 40fed gais.

Y gêm yn erbyn Ffrainc yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn fydd yn penderfynu'r Gamp Lawn.

Hon oedd yr ail Goron Driphlyg i Gymru mewn 20 mlynedd - er nad oedden nhw wedi ennill yn Nulyn ers 2000.

Roedd y Gwyddelod yn anelu at drydedd Goron Driphlyg a'u breuddwyd am ennill y Gamp Lawn wedi dod i ben ar ôl colli 26-21 i'r Ffrancod.




  • Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


    Yn ôl i'r brig ^^