Un sy'n derbyn y Groes Militaraidd ydi Stephen Webb
|
Mae wyth o filwyr o Ail Fataliwn y Cymru Brenhinol yn cael eu hanrhydeddu am eu gwasanaeth yn Irac ac Afghanistan.
Mae'r Uwch-Gapten Stephen Webb o Abertawe, y Ffiwsilwr Damion Hields o Ddinbych a'r Corporal Richard Pask o Gwmbran wedi cael y Groes Filitaraidd.
Y Frenhines fydd yn cyflwyno'r wobr am eu dewrder ym Mhalas Buckingham.
Fe fydd yr Is-Gorporal Darren Gregory o Ben-y-bont a'r Ogwr a'r Prieifat Benjamin Chamberlain o Gaerffili yn cael clod hefyd yn ogystal â thri aelod arall.
Mae'r Groes Filitariadd yn un o anrhydeddau ucha'r fyddin.
Caiff yr Uwch-Gapten Webb yr anrhydedd am yr hyn wnaeth o ar ôl i'w gerbyd gael ei daro gan fom ar ochr y ffordd wrth iddo deithio o Balas Basra.
Cofio'r rhai gollwyd
Er bod 'na fygythiadau i'w griw dywed ei enwebiad iddo ddangos "dewrder gwylaidd...ac arweinyddiaeth ysbrydoledig o'r radd ucha".
Dywedodd yr Uwch-Gapten Webb ei fod o, ei wraig a'i dad yn flach o'r anrhydedd.
"Mae 'na 127 o ddynion yn y cwmni a dwi'n meddwl bod pawb yn haeddu hyn cymaint â fi."
Roedd gweithredoedd Richard Pask yn "wylaidd"
|
Ond wrth glywed ei fod yn derbyn yr anrhydedd mae'n cofio bod tri dyn o'r bataliwn ddim wedi dychwelyd adref a'u bod yn cael eu colli.
Fe fu seremoni arbennig yng Nghaerdydd i groesawu'r milwyr adref ac ychwanegodd yr Uwch-Gapten Webb ei fod yn teimlo'n "hynod o falch" yn yr orymdaith a bod cefnogaeth y cyhoedd yn "wych".
Dywedodd y Corporal Pask ei fod yn dychmygu y bydd yn dal mewn sioc am wythnos o glywed y newydd.
Mae ei enwebiad yn egluro ei fod o wedi cael ei anafu mewn ffrwydrad ond yn hytrach nag ildio fe wnaeth barhau i ddangos "arweinyddiaeth deilwng" am chwe awr.
'Breuddwyd'
"Roedd ei weithredoedd gwylaidd o gymorth i arwain cerbydau oedd dan fygythiad i ddiogelwch," meddai'r enwebiad.
"Fe allech chi ddweud mai breuddwyd unrhyw filwr fyddai i gael medal am ddewrder.
"Wnes i ddim mwy nag unrhyw un arall.
Caiff Benjamin Chamberlain a Darren Gregory eu anrhydeddu hefyd
|
"Roedd pawb mor ddewr, yn gwneud pethau mor wylaidd."
Deunaw oed oedd y Preifat Chamberlain pan gafodd ei anfon allan i Irac.
Mae'n cael ei anrhydeddu am ei "ymroddiad i'w ddyletswyddau" yn ogystal â bod yn filwr medrus a phroffesiynol.
"Mae'n wych, mae'n anodd esbonio'r teimladau," meddai o glywed ei fod yn cael ei anrhydeddu.
Dywedodd yr Is-Gorporal Gregory, oedd ar ei ail ymweliad ag Irac, ei fod yn "gwneud ei waith".
Caiff ei anrhydeddu am ei "ddewrder, dygnwch ac arweinyddiaeth ysbrydoledig".
Caiff y Capten David Evans o Gaerdydd, y Capten Richard Moger o Cheltenham a'r Corporal Kelly Peters o Aberhonddu, eu henwi hefyd.
Bu'r tri yn gwasanaethu yn Irac.