BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 5 Mawrth 2008, 14:34 GMT
Elw i Eisteddfod Llangollen
Eisteddfod Llangollen
Dyma'r chweched flwyddyn yn olynnol i'r Eisteddfod wneud elw

Gwnaeth Eisteddfod Ryngwladol Llangollen elw o 60,000 y llynedd.

Dyma'r chweched flwyddyn yn olynol i'r ŵyl wneud elw.

Daw'r cyhoeddiad wrth i'r Eisteddfod gyhoeddi pwy fydd eu prif weithredwr newydd.

Roedd y llynedd yn flwyddyn anodd oherwydd bod yr Eisteddfod wedi cael y tywydd gwlypaf yn ei hanes.

Yn ogystal bu gostyngiad yn nifer y cystadleuwyr oherwydd anawsterau'n ymwneud a fisas.

Ymhlith y sr oedd yn cymryd rhan yn y cyngherddau yn ystod yr wythnos yr oedd Joan Baez, Hayley Westenra a Jose Carreras.

Pennaeth newydd

Dywedodd y trefnwyr bod gwefan yn dangos yr holl gystadlu, llangollen.tv, wedi bod yn llwyddiant gyda dros 3.2 miliwn o argraffiadau mewn dros 90 o wledydd.

Mae'r Eisteddfod hefyd wedi cyhoeddi mai Prif Weithredwr newydd yr Eisteddfod fydd Mervyn Cousins.

Mervyn Cousins
Mervyn Cousins ydi'r Prif Weithredwr newydd

Mae Mr Cousins wedi bod yn Gyfarwyddwr Cerdd yr Eisteddfod ers pum mlynedd.

Cyn mynd i Langollen roedd yn gwneud swydd debyg yng Nghadeirlan Metropolitan Lerpwl.

"Dwi'n falch iawn i gael fy mhenodi i'r swydd ac yn ei gweld yn anrhydedd ac yn fraint," meddai.

"Mae 'na dm gwych yma yn yr Eisteddfod, yn wirfoddolwyr ac yn staff.

"Dwi'n edrych ymlaen at ŵyl 2008 a dwi'n hyderus y bydd yn parhau i dyfu."

Fe fydd Mr Cousins yn parhau i fod yn Gyfarwyddwr Cerdd yr ŵyl.



HEFYD
Carreras ymhlith sr Llangollen
15 Ion 07 |  Newyddion
Llangollen: Anelu at dorri record
10 Gorff 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^