Bydd strategaeth yn ei lle erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf
|
Fe allai'r iaith Gymraeg farw heb strategaeth genedlaethol ar gyfer addysg Gymraeg, yn ôl prif weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Mae Meirion Prys Jones wedi dweud wrth y BBC bod angen strategaeth i gynnig arweiniad i benaethiaid ynglŷn â faint o Gymraeg allan nhw gynnig ac er mwyn ceisio sicrhau bod plant sy'n cael addysg gynradd yn y Gymraeg yn parhau gydag addysg Gymraeg hyd nes eu bod nhw'n 16 oed.
Dywedodd Mr Jones: "Mae llawer o blant yn dechrau derbyn addysg Gymraeg yn 4 oed ac yna'n gollwng hynny am 11 oed.
"Mae angen strategaeth i sicrhau eu bod yn parhau tan 16 oed.
'Rhugl'
"Dyna sut fydda'n nhw'n dod yn rhugl yn Gymraeg, yn enwedig plant o gefndiroedd di-Gymraeg".
Ar ben hyn mae Meirion Prys Jones yn dweud mai diffyg gallu gweision sifil Llywodraeth y Cynulliad i ymdrin ag anghenion addysg Gymraeg yw'r rheswm pam nad oes strategaeth wedi ei pharatoi cyn hyn.
Mae e'n dweud bod y Bwrdd wedi bod yn galw am strategaeth ers sefydlu'r Cynulliad a hyd yn oed wedi paratoi strategaeth ddrafft ar gyfer y llywodraeth ddiwethaf.
Mae'r llywodraeth yn dweud y bydd Uned Iaith Gymraeg sydd ar fin cael ei sefydlu yn dechrau ar y gwaith o ddatblygu strategaeth ac mae disgwyl iddi fod yn barod erbyn diwedd Mawrth 2009.
Dywedodd y Gweinidog Treftadaeth Rhodri Glyn Thomas ddydd Llun: "Newydd gael ei ffurfio mae llywodraeth 'Cymru'n Un' ac roedd cael strategaeth newydd ar gyfer addysg Gymraeg yn un o'n hymrwymiadau.
"Bydd y strategaeth yn ei lle erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf".
Bydd mwy i'w clywed ar raglen Manylu ddydd Llun am 18.00 ar BBC Radio Cymru