Bydd yr elw yn mynd tuag at elusennau oedd yn agos at galon Ray Gravell
|
Cafodd llyfr newydd er cof am Ray Gravell ei gyhoeddi mewn cyngerdd arbennig ddydd Sul.
Cafodd Cyngerdd Cofio Grav ei gynnal yn Theatr y Lyric Caerfyrddin.
Gwerthwyd y 740 o docynnau ar gyfer y noson o fewn awr i fynd ar werth yn Rhagfyr.
Sgrîn Fawr
Fe wnaed y trefniadau cyn i Ray Gravell farw y llynedd, er mwyn codi ymwybyddiaeth ac arian at wellhad i glefyd y siwgr.
Ar ôl marwolaeth y cyn chwaraewr rygbi a'r darlledwr, fe benderfynodd y teulu fwrw ymlaen a'r trefniadau er cof amdano.
Ymhlith yr artistiaid roedd Bryn Terfel, Rhys Meirion, Côr Meibion Llanelli, Fflur Dafydd ac Iona Jones.
Cafodd sgrîn fawr ei gosod yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin, gyda lle ar gyfer 400.
Awdur y gyfrol 'Cofio Grav' ydi Keith Davies, un o gydweithwyr Ray Gravell ar Radio Cymru.
Mae'r llyfr yn cynnwys teyrngedau gan lu o bobl yn cynnwys prifeirdd, gwrandawyr ei raglen radio, gwleidyddion a chwaraewyr rygbi.
Englynion
Bydd elw'r llyfr yn mynd i Gronfa Ray Gravell.
Bydd y gronfa yn rhoi arian i elusennau oedd yn agos at galon y cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol, a darlledwr.
"Mae fy niolch yn fawr i'r holl gyfranwyr, cyffredin ac ysgolhaig am fod mor barod i gyfrannu, ac yn arbennig i Alun yn Y Lolfa am ei holl waith, ond mae'n diolch yn bennaf i Grav am ysbrydoli'r fath eiriau."
Yn ôl Lefi Gruffudd o'r Lolfa: "Bu'r ymateb gan feirdd, llenorion a ffrindiau i'r gyfrol yn anhygoel.
"Cafwyd degau o englynion a nifer fawr o deyrngedau ardderchog i'w cynnwys yn y gyfrol.
"Mae'n diolch yn fawr i'r holl gyfranwyr am eu cymorth parod, a gobeithiwn fod y llyfr yn deyrnged deilwng i un o'n harwyr pennaf."