BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 1 Mawrth 2008, 10:46 GMT
Y nod o gryfhau cyswllt Celtaidd
Gary Mitchell
Y dramodydd: Gary Mitchell
Mae beirdd, nofelwyr a dramodwyr yn trafod beth sy'n gyffredin rhwng Gogledd Iwerddon a Chymru a beth sy'n wahanol.

Ym Melffast mae'r gynhadledd arbennig fydd para tan Fawrth 2.

Dau fudiad sy wedi trefnu'r gynhadledd, yr Academi ac Undeb Ysgrifenwyr Cymru.

"Roedd y ddinas yn enwog am adeiladu llongau, lliain a'r helynt ond nid felly bellach," meddai prif weithredwr yr Academi, Peter Finch.

"Heddiw, mae'n ddinas l-fodern sydd wedi ailddyfeisio'i hunan.

".. erbyn hyn mae'n cynhyrfu'r dyfroedd diwylliannol mewn ffyrdd arloesol yn y byd rhyngwladol."

Dywedodd fod 80 wedi mynd draw o Gymru ac mai hwn oedd y tro cynta i'r gynhadledd fod yng Ngogledd Iwerddon.

Roedd undeb ysgrifenwyr y ddwy wlad wedi bod yn cydweithio, meddai, ac fe gafwyd gwahoddiad i fynd i'r ddinas.

Ian Rowlands
Y dramodydd: Ian Rowlands

"Mae Gogledd Iwerddon a Belffast wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf ac mae'n gyfle i'n haelodau ni ddysgu am y datblygiadau hyn.

"Yr un pryd mae'n gyfle i ni sn am yr amrywiaeth o ffilimau a llenyddiaeth o Gymru sydd ag elfennau Gwyddelig ynddyn nhw."

Dywedodd y byddai'r cynadleddwyr yn trafod sut y gall ysgrifennu fynd i'r afael 'r gorffennol cythryblus a'r dyfodol chwyldroadol.

Pwnc trafod arall fydd sut mae'r Iwerddon yn uniaethu 'i chymydog agosaf, Cymru?

Catrin Dafydd
Y nofelydd: Catrin Dafydd

Ymhlith y siaradwyr mae Antaine Donnaile sy'n Uwch-Gynhyrchydd yr Iaith Wyddeleg y BBC yng ngogledd Iwerddon; Aodn Mac Pilin sy'n weithgar gyda nifer o gyrff sy'n ymwneud ag iaith, addysg, cysylltiadau cymunedol a'r celfyddydau; Catrin Dafydd sy'n gweithio fel awdur ar ei liwt ei hunan - cyrhaeddodd ei nofel gyntaf, Pili Pala Restr Hir Llyfr y Flwyddyn yn 2007; yr awdur a'r cyfarwyddwr artistig, Ian Rowlands a Glenn Patterson sy'n diwtor Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Queens.

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^