BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 29 Chwefror 2008, 14:27 GMT
Cewri Cymru: Grav ar restr fer
Ray Gravell
Ar y rhestr fer: Ray Gravell
Enwau mawr y byd chwaraeon ac adloniant, gan gynnwys y diweddar Ray Gravell, sydd ar restr fer cystadleuaeth Cewri Cymru.

Y gantores glasurol Katherine Jenkins yw'r unig fenyw yn y deg ucha sy'n cynnwys y bariton bydenwog Bryn Terfel.

Ar y rhestr mae'r chwaraewr rygbi James Hook a chyflwynydd Blue Peter, Gethin Jones, Dewi Sant a Hywel Dda.

Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol sy'n trefnu'r gystadleuaeth a bydd modd pleidleisio tan fis Awst.

Bydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd.

RHESTR FER
Ray Gravell
Katherine Jenkins
Dewi Sant
Gethin Jones
James Hook
Joe Calzaghe
Tom Jones
Bryn Terfel
Hywel Dda
Ryan Giggs

Nod y gystadleuaeth, medd y trefnwyr, yw dod o hyd i'r person sy'n cynrychioli orau beth yw bod yn Gymro neu Gymraes.

Mae yna flychau pleidleisio yn y Senedd yng Nghaerdydd a Chanolfan Ymwelwyr Gogledd Cymru ym Mae Colwyn.

Ac mae modd pleidleisio drwy'r post.

Dechreuodd y pleidleisio ar Ionawr 31 ac eisoes mae 1,000 o bobl wedi bwrw pleidlais.

O ddydd Sadwrn ymlaen, fe fydd pobl yn gorfod pleidleisio o blaid un o'r enwau ar y rhestr fer.

Dywedodd Delyth Williams, rheolwraig marchnata y comisiwn, fod y rhestr fer yn ddifyr.

"Roedden ni am wybod pwy y mae pobl yn credu ar hyn o bryd yw'r arwr Cymreig."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^