Bydd Connie Fisher yn un o berfforwyr yn C Ffactor
|
Mae 'na amrywiaeth o gyngherddau yn cael eu cynnal yn ystod wythnos Eisteddfod Caerdydd a'r Cylch eleni.
O gantorion opera i gantorion poblogaidd fe fyddan nhw i'w gweld ar lwyfan y pafiliwn yn y brifddinas.
Yn cychwyn yr wythnos y bydd cyngerdd TRI10 ar nos Wener Awst 1.
Cyfle i ddathlu addysg Gymraeg yng Nghaerdydd a phen-blwydd arbennig y ddwy ysgol uwchradd yn y ddinas fydd i'w gweld ar y llwyfan. Fe fydd Côr Unedig Ysgol Glantaf a chyn-ddisgyblion enwog Ysgol Plasmawr a rhai o ysgolion cynradd Cymraeg y ddinas yn cymryd rhan. Cyn y cyngerdd fe fydd y Seremoni Agoriadol.
Noson o gerddoriaeth amrywiol gan gynnwys caneuon traddodiadol Cymreig, Finlandia a Jive Concerto fydd nos Sadwrn yn Gwasanaeth Cerdd Cyngor Caerdydd.
Yn cymryd rhan fydd Band Chwythbrennau, Band Pres, Band Pres Symffonig, Cerddorfa Ieuenctid, Côr Ieuenctid a Chôr Plant Cynradd, Band Mawr ac Ensemble Taro.
Alun Guy fydd arweinydd y
Gymanfa Ganu ar y nos Sul gyda Rob Nicholls ar yr organ.
Cofio Grav
Nos Lun fe fydd 'na noson hanesyddol gyda Bryn Terfel wrth iddo gymryd rhan yn Offeren Verdi .
Fe fydd yr offeren yn cael ei chanu yn Lladin a gyda Bryn Terfel ar y llwyfan y bydd Anja Harteros (Soprano); Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC. Arweinydd y cyfan fydd Daniel Harding. Dyma fydd y tro cyntaf i berfformwyr rhyngwladol gymryd rhan mewn cyngerdd yn y brifwyl.
Fe fydd 'na noson arbennig i gofio Grav
|
Nos Fawrth fe fydd 'na gyfle arbennig i gofio Eisteddfodwr a Chymro arbennig, Ray Gravell yn Grav - Yma o Hyd.
Fe fydd yn noson i ddathlu bywyd y cawr o Fynyddygarreg.
Sawl C sydd yng Nghaerdydd? Wel nos Iau fe fydd 'na fwy na'r disgwyl yn
C Ffactor.
Fe fydd Connie Fisher, Cerys Matthews, Catrin Finch, Shân Cothi, Caryl Parry Jones a Cantorion yn creu noson gerddorol i hudo cynulleidfa'r pafiliwn.
Ac i gloi'r wythnos ar y nos Sadwrn y bydd Karl Jenkins a Chôr yr Eisteddfod
Fe fydd y cyfansoddwr o Bencalwdd yn arwain perfformiad o'i waith ei hun sef Dewi Sant ynghyd â chytganau amrywiol.
Mae'r côr yn ymgorfforiad o Gantorion Creigiau, Côrdydd, Côr Merched Canna, Côr Meibion Taf, Côr Poliffonig Caerdydd, Côr Philarmonic Caerdydd, Côr Ardwyn, Côr Caerdydd ynghyd â nifer o bobl sydd wedi ffurfio côr yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod. Gyda nhw y bydd yr unawdydd Rebecca Evans gydag Alun Guy yn arweinydd Côr yr Eisteddfod.
Ar y nos Fercher a'r nos Wener fe fydd yna fwrlwm yn y pafiliwn gyda nifer o gystadlaethau. Yr ifanc fydd yn denu'r sylw ar y nos Fercher efo Gwobr Richard Burton; Seremoni Tlws y Cerddor ac Ysgoloriaeth W. Town Roberts ymhlith y cystadlaethau.
Fe fydd y tocynnau ar werth o Fawrth 1 2008 ymlaen drwy wefan yr eisteddfod neu'r llinell docynnau ar 0845 1221176 .