Y cwmni: Mewn taflen oedd yn hybu busnesau bach
|
Mae wedi dod i'r amlwg bod y cigydd oedd yn gysylltiedig ag achosion E.coli wedi cael ei gynnwys yn nhaflen Llywodraeth y Cynulliad i hybu busnesau bach.
Roedd enw William Tudor yn y daflen "Cnoi Cil" dim ond misoedd cyn y gyfres o achosion gwenwyn bwyd ddechreuodd yn 2005.
Dydd Iau clywodd yr ymchwiliad cyhoeddus i achosion E.coli gan un o'r rhai oedd yn gyfrifol am hybu'r daflen.
Roedd y daflen yn cyfeirio at arfer da busnesau gorau.
Yn y daflen dywedodd Tudor fod ei gwmni wedi cael "sylwadau ffafriol gan gwsmeriaid" a bod ymateb da i brydau cinio cig oen Cymreig.
Eisoes mae'r ymchwiliad wedi clywed tystiolaeth fod cwmni Tudor yn gwerthu cig dafad a chig oen o Seland Newydd ond yn honni ei fod yn gig oen o Gymru.
William Tudor: Cafodd ei garcharu am flwyddyn
|
Mae'r ymchwiliad wedi clywed taw safle'r cigydd oedd ffynhonnell yr heintio.
Cafodd Tudor o'r Bontfaen ei garcharu am flwyddyn ym mis Medi 2007 ar ôl cyfadde iddi gyflenwi bwyd oedd wedi ei heintio.
Bu farw bachgen pump oed, Mason Jones o'r Deri ger Bargord, a chafodd 158 o bobl, y rhan fwyaf yn blant, eu taro'n sâl yn 2005.
Roedd yr ymchwiliad wedi clywed bod yr awdurdodau wedi parhau i brynu cig oddi wrth y cigydd er bod 'na bryder am safon y cynnyrch.
Roedd y cigydd wedi bod yn cael cytundebau er bod 'na gwynion yn dyddio nôl i 1998 am sut yr oedd cig wedi ei goginio.