Y cigydd: Amodau gwaith
|
Mae'r dyn oedd yn gyfrifol am gynghori ysgolion ynglŷn â phrynu cig yng nghymoedd y de wedi bod yn rhoi tystiolaeth yn yr ymchwiliad i'r achosion o e.coli yn 2005.
Dywedodd David Evans nad oedd wedi archwilio safle'r cigydd William Tudor pan wnaeth y cwmni gais am gytundebau yn 1998 a 2002.
Mr Evans oedd yn arwain y drefn o brynu cig ar ran cynghorau Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Penybont a Chaerffili.
Eisoes mae'r ymchwiliad cyhoeddus wedi clywed taw safle'r cigydd John Tudor ym Mhen-y-bont oedd ffynhonell yr heintio.
Cafodd Tudor o'r Bontfaen ei garcharu am flwyddyn ym mis Medi 2007 ar ôl cyfadde iddi gyflenwi bwyd oedd wedi ei heintio.
Bu farw bachgen pump oed, Mason Jones o'r Deri ger Bargord, a chafodd 158 o bobl, y rhan fwyaf yn blant, eu taro'n sâl yn 2005.
Eisoes mae'r ymchwiliad wedi clywed bod yr awdurdodau wedi parhau i brynu cig oddi wrth y cigydd er bod 'na bryder am safon y cynnyrch.
Roedd y cigydd wedi bod yn cael cytundebau er bod 'na gwynion yn dyddio nôl i 1998 am sut yr oedd cig amrwd a chig wedi ei goginio.
William Tudor: Cafodd ei garcharu am flwyddyn
|
Dydd Llun amddiffynnodd swyddog iechyd yr amgylchedd benderfyniad i adael i'r cigydd ddefnyddio peiriant pecynnu cig o hyd.
Dywedodd Angela Coles ei bod hi'n poeni pan arolygodd y safle am fod yr un peiriant yn pecynnu cig wedi ei goginioa chig nad oedd wedi ei goginio.
"Ond o safbwynt glanweithdra," meddai, "doeddwn i ddim yn credu bod y sefyllfa mor wael â hynny."