Un o sêr y gyngerdd ar nos Iau fydd Connie Fisher
|
Cyngerdd arbennig lle bydd Cerys Matthews a Connie Fisher yn canu fydd un o uchafbwyntiau'r Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Gan fod y Brifwyl yn y brifddinas mae'n addas mai'r C Ffactor fydd teitl y gyngerdd nos Iau Awst 7.
Mae seren y West End, Connie Fisher, a'r gantores fyd-enwog, Cerys Matthews, yn edrych ymlaen at y perfformiad.
Yn yr un gyngerdd fe fydd y delynores Catrin Finch, y gantores opera Shân Cothi a'r gantores Caryl Parry Jones.
Mae Connie newydd orffen 18 mis yn Llundain fel seren The Sound of Music ar ôl ennill gwobr y gyfres deledu How Do You Solve a Problem Like Maria?
Dywedodd y ferch 24 oed o Sir Benfro ei bod am fod yn yn y gyngerdd er mwyn diolch i'r ŵyl am roi'r cyfle cyntaf iddi fod ar lwyfan.
Dweud diolch
"Fe ddechreuais gystadlu mewn Eisteddfodau yn ferch ifanc," meddai.
"Rydw i'n Gymraes ail-iaith, ond Cymru yw fy nghartre ac roeddwn i eisiau dod nôl adref i ddweud diolch.
"Fe fydda i'n perfformio set yn llawn o ganeuon Cymraeg ac rydw i'n edrych ymlaen at rannu llwyfan gyda Cerys.
"Mae hi'n arwres ..."
Yn ddiweddar, bu'n rhaid i Connie ohirio ei thaith dros yr haf, gan gynnwys ymweliad â'r Arena Ryngwladol Caerdydd.
"Rydyn ni wedi gohirio'r cyngherddau nid eu canslo.
"Roedden ni eisiau rhyddhau'r albwm gyntaf a gwneud llai o bethau - ond eu gwneud yn dda."
Dywedodd Elfed Roberts, prif weithredwr yr Eisteddfod ei bod hi'n argoeli'n noson wych.
"Rydan ni wrth ein boddau fod Connie a Cerys wedi cytuno i ymddangos.
"Dwi'n gobeithio fod hyn yn dangos bod yr Eisteddfod yn cynnig rhywbeth gwahanol ...
"Rydan ni'n edrych ymlaen at noson wefreiddiol yn y pafiliwn."
Fe fydd tocynnau i'r cyngherddau ar werth ar y llinell docynnau ar 0845 122 2003 neu ar-lein www.eisteddfod.org.uk