BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 25 Chwefror 2008, 11:47 GMT
Terfel yn helpu i greu hanes
Bryn Terfel
Mae Bryn Terfel yn gyfarwydd iawn llwyfan yr Eisteddfod

Caiff traddodiad ei thorri eleni yn yr Eisteddfod Genedlaethol wrth i berfformwyr rhyngwladol berfformio yno mewn cyngerdd.

Yn arwain y cyngerdd y bydd y canwr o Ddyffryn Nantlle, Bryn Terfel.

Fe fydd o ac artistiaid rhyngwladol eraill yn perfformio Requiem Verdi mewn Lladin ar nos Lun yr Eisteddfod, Awst 4.

Yr arweinydd Daniel Harding a'r Almaenes Anja Harteros fydd ymhlith yr artistiaid fydd yn ymuno gyda Bryn ar y llwyfan.

Dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, bod hyn yn dipyn o sgŵp i'r brifwyl.

"Mae'n gyfle bendigedig i bobl ar draws Cymru gael bod yn rhan o noson arbennig iawn."

Gwerthu'n dda

Dyma fydd y tro cyntaf i'r Eisteddfod roi llwyfan i artistiaid rhyngwladol di-Gymraeg.

Yn gefn i'r cyfan bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC.

Hon ydi'r noson gyntaf i ni roi cyngerdd fel hyn ymlaen ac rydan ni yn falch i roi llwyfan i'r fath dalent
Elfed Roberts

Mae disgwyl mawr y bydd y 3,500 o dicedi yn gwerthu'n dda gan fod Bryn yn barod wedi llenwi Canolfan y Mileniwm am bum noson ym mis Mawrth pan fydd yn perfformio Falstaff gydag Opera Cenedlaethol Cymru.

"Rydw i yn edrych ymlaen at gael croesawu'r sr yma i Gymru ac iddyn nhw gael profi diwylliant Cymru ar ei orau yn yr Eisteddfod Genedlaethol," meddai Bryn.

Dywedodd Mr Roberts bod cyngherddau Bryn Terfel yn atyniad mawr.

"Hon ydi'r noson gyntaf i ni roi cyngerdd fel hyn ymlaen ac rydan ni yn falch i roi llwyfan i'r fath dalent, yn enwedig gan fod ein Bryn Terfel ni yn ben ar y cwbl.

"Mae cyngherddau Bryn yn atyniad mawr - fel y gwelson ni efo ticedi Canolfan y Mileniwm - ac rydym yn disgwyl galw mawr.

"Fy neges i ydi, gwnewch yn siwr o'ch ticedi yn fuan."

  • Bydd ticedi ar gael ar y llinell docynnau 0845 1221176 neu ar-lein www.eisteddfod.org.uk




  • O'R MAES

    O'R ARCHIF

    YR ORSEDD

    CEFNDIR

    GWEFAN


    CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


    Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


    Yn ôl i'r brig ^^