BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 23 Chwefror 2008, 16:57 GMT
Rali yn galw am ddeddf iaith
Y Senedd
Cafodd y rali ei chynnal y tu allan i adeilad y senedd
Cafodd rali ei chynnal y tu allan i adeilad y senedd ym Mae Caerdydd ddydd Sadwrn yn galw am ddeddf iaith newydd.

Yn ystod y bythefnos nesa, fe fydd digwyddiadau ledled Cymru i alw am wneud y Gymraeg yn iaith swyddogol.

Roedd cynrychiolwyr 13 o fudiadau sy'n rhan o 'Fudiadau Dathlu'r Gymraeg' yno - grŵp ymbarél a ffurfiwyd i alw am hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg a chomisiynydd dros yr iaith.

Dywedodd Hywel Griffiths, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Mae'r rali wedi ei threfnu yn ystod cyfnod o ddiffyg ffydd yn llywodraeth glymblaid y Cynulliad.

"Yn y ddogfen Cymru'n Un, maent yn datgan yn glir eu bod am ymrwymo i sefydlu papur newydd dyddiol Cymraeg, a sefydlu coleg ffederal er mwyn sicrhau darpariaeth Gymraeg yn ein prifysgolion. Nid yw'r Llywodraeth wedi sicrhau un o'r amcanion yma.

'Dadrith'

"Maent ond wedi darparu lleiafswm annigonol o arian tuag at sefydlu'r amcanion yma. Nid ydym wedi gweld unrhyw dystiolaeth bod y llywodraeth glymblaid yma yn llwyddiannus o ran cyflawni ei strategaeth. Mi fydd y rali tu allan i'r Senedd yn symbol o ddadrith y Cymry â'r sefyllfa bresennol, ac yn ategu'r alwad fod rhaid i'r llywodraeth gadw at yr hyn a addawyd yn nogfen Cymru'n Un."

Ddechrau'r mis cyhoeddodd y Gweinidog Treftadaeth Rhodri Glyn Thomas y byddai £200,000 y flwyddyn yn ychwanegol ar gael i'r wasg Gymraeg dros gyfnod o dair blynedd.

Mae sefydlu coleg ffederal hefyd yn rhan o amcanion llywodraeth glymblaid Llafur a Phlaid Cymru.

Dywed dogfen "Cymru'n Un" y dylid "cyflwyno Rhwydwaith Addysg Uwch Gyfrwng Cymraeg - y Coleg Ffederal - er mwyn sicrhau darpariaeth Gymraeg yn ein prifysgolion."

Mudiadau sy'n gysylltiedig â Mudiadau Dathlu'r Gymraeg yw: Merched y Wawr, Mentrau Iaith Cymru, Mudiad Ffermwyr Ifanc, Undeb Amaethwyr Cymru, Rhieni dros Addysg Gymraeg, Cymuned, Yr Eisteddfod Genedlaethol, Urdd Gobaith Cymru, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Cymdeithas Alawon Gwerin, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth ac Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor.

HEFYD
Y Byd: 'Bradychu ymrwymiad'
21 Chwef 08 |  Newyddion
Iaith: 'Dim digon o ddefnyddwyr'
05 Chwef 08 |  Newyddion
Mwy o Gymraeg yn y colegau?
27 Tach 07 |  Newyddion


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^