Fe fydd Hosbis Dewi Sant a tair arall yn derbyn £25,340 ychwanegol
|
Fe fydd pedair hosbis yng ngogledd Cymru yn derbyn arian ychwanegol.
Cyhoeddodd Gweinidog Iechyd Cymru, Edwina Hart, y bydd bob un yn cael dros £25,000 ychwanegol.
Mewn llythyr at Aelodau'r Cynulliad dywedodd Ms Hart y bydd yr arian ychwanegol, £25,340, yn cael ei roi cyn diwedd y flwyddyn ariannol bresennol.
Mi fydd yr arian yn cael ei roi i Hosbis Tŷ'r Eos yn Wrecsam; Sant Cyndeyrn yn Llanelwy; Dewi Sant yn Llandudno a Thŷ Gobaith yng Nghonwy.
Mae AC Aberconwy, Gareth Jones, wedi dweud ei fod yn croesawu'r arian ychwanegol.
Mae un hosbis sydd yn ei etholaeth, Hosbis Dewi Sant yn gweld yr arian yn dyblu bron o £29,250 i £54,590.
Trafodaeth
Daw penderfyniad Ms Hart ar ôl pwysau arni gan yr hosbis eu hun ac ymgyrchu gan Mr Jones.
Roedd o'n siomedig am y swm a roddwyd i'r sefydliadau drwy Gymru ym mis Hydref y llynedd.
Fel cyn ymddiriedolwr yr hosbis yn Llandudno fe wnaeth o wadd Ms Hart yno'n ddiweddar i weld y gwaith gwych sy'n cael ei wneud yno ac i drafod cynlluniau ariannol y dyfodol.
 |
ARIAN YCHWANEGOL
Tŷ'r Eos, Wrecsam: £58,500 a £25,340 yn creu cyfanswm o £83,840
Tŷ Gobaith, Conwy: £149,062 a £25,340 yn creu cyfanswm o £174,402
Hosbis Dewi Sant, Llandudno: £29,250 a £25,340 yn creu cyfanswm o £54,590
Hosbis Sant Cyndeyrn, Llanelwy: £87,750 a £25,340 yn creu cyfanswm o £113,090
|
"Rydym wedi llwyddo i ddwyn persawd ar y Gweinidog... a dwi'n ddiolchgar iawn iddi am wrando ar y dadleuon," meddai Mr Jones.
"Er nad ydi'r swm sydd wedi cael ei ganfod gymaint ag yr oeddwn i wedi ei ddymuni, mae serch hynny yn hwb sylweddol i gyllid yr hosbisau ac mae i'w groesawu."
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y bydd dyfodol ariannol y sefydliadau fel Dewi Sant yn fwy sicr ar ôl i'r Gweinidog weld yr hyn sy'n cael ei wneud yno.
Yn ystod yr ymweliad dywedodd Ms Hart bod Hosbis Dewi Sant yn siomedig am y modd y cafodd yr arian ei rannu.
"Rhoddaf sicrwydd y byddaf yn ail edrych ar y sefyllfa."