Mae stategaeth debyg yn bodoli yn Yr Alban
|
Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ysgrifennu at bob Aelod Cynulliad gan ddweud bod gwaith eisoes wedi dechrau ar gynllun i atal hunanladdiadau.
Daw cyhoeddiad Edwina Hart ar ôl yr hunanladdiadau yn ardal Pen-y-Bont ar Ogwr.
Dydd Mawrth daeth y newyddion am hunanladdiad merch 16 oed, Jenna Parry, yn ardal Cefn Cribwr.
Ers mis Ionawr 2007 mae 'na honiadau bod 17 o bobl ifanc wedi lladd eu hunain yn ardal Pen-y-Bont ar Ogwr, gyda'r diweddara ddydd Mawrth.
Daw ei llythyr yr un diwrnod ag y cafodd strategaeth arall ei gyhoeddi ym Mhen-y-Bont i geisio atal nifer y marwolaethau yn y sir.
Yn y llythyr mae Ms Hart yn dweud bod y marwolaethau diweddar yn tanlinellu'r angen i ddod â'r holl bolisïau atal hunanladdiad at ei gilydd er mwyn creu un ddogfen.
Llwyddiant Yr Alban
Byddai hyn yn creu Cynllun Gweithredu Atal Hunanladdiad i Gymru am y tro cyntaf ac fe fydd £6.5 miliwn yn cael ei wario ar wasanaeth cwnsela mewn ysgolion dros y tair blynedd nesaf.
"Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion symud ymlaen efo'r gwaith yma ar unwaith," meddai Ms Hart.
"Rwy'n gobeithio y byddwch yn cefnogi fy mwriad o ddatblygu Cynllun Gweithredu Atal Hunanladdiad drwy ddod â dogfennau at ei gilydd.
"Bydd rhaid i'r Cynllun Gweithredu ystyried y dystiolaeth orau o bob rhan o Brydain, ac yn enwedig ymgyrch "Dewiswch Fywyd" sydd wedi bod yn llwyddiannus yn Yr Alban."
Mae llythyr Ms Hart hefyd yn amlinellu ei bwriad i sefydlu prosiectau peilot yn fuan er mwyn atal hunanladdiad yn yr ardaloedd hynny lle mae nifer fawr wedi lladd eu hunain.
'Ffordd gyfrifol
"Mae hon yn broblem genedlaethol sydd ddim wedi ei chyfyngu i un ardal llywodraeth leol, felly bydd prosiectau mewn gwahanol rannau o Gymru," medd Ms Hart.
Dywed bod tystiolaeth o bob cwr o'r byd yn dangos bod yn rhaid i'r cyfryngau wneud straeon am hunanladdiad yn "gyfrifol".
"Mae'r cyfryngau Cymreig wedi gweithio efo ni a gwasanaethau lleol, gan ymdrin â'r pwnc yn gyfrifol.
"Rwy'n gobeithio nawr y bydd y cyfryngau Prydeinig hefyd yn dilyn y trywydd yma."
Mae corff sy'n cydlynu'r ymchwiliad i'r marwolaethau diweddar yn y sir wedi cyhoeddi strategaeth arall i geisio lleihau nifer y marwolaethau ymhlith pobl ifanc.
Mae nifer o asiantaethau lleol yn rhan o'r corff yma.