BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 19 Chwefror 2008, 07:12 GMT
Dwy chwaer: Gwaith Monet
San Giorgio Maggoire by Twilight gan Claude Monet (Llun: Amgueddfa Cymru)
San Giorgio Maggoire by Twilight gan Claude Monet

Mae lluniau Monet a Pissarro mewn oriel fach ym Mhowys mewn arddangosfa am ddwy chwaer oedd yn gasglwyr lluniau.

Yn Oriel Davies yn Y Drenewydd mae gwaith Cezanne a Degas oedd yn eiddo i Gwendoline a Margaret Davies.

Comisiynodd yr oriel luniau newydd am daith y ddwy chwaer i'r Eidal yn 1909.

Mae casgliad y chwiorydd yn cynnwys dros 250 o weithiau gafodd eu gadael i Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Hwn i'r tro cyntaf i'r oriel, gafodd ei chodi oherwydd gwaddol y chwiorydd, arddangos gwaith Claude Monet, Camille Pissarro, Paul Cezanne, Edgar Degas a Berthe Morisot.

Mae'r lluniau, sydd ar fenthyg o'r Amgueddfa Genedlaethol, yn yr oriel tan Ebrill 12.

'Anhygoel'

Cafodd y lluniau eu hysbrydoli gan ymweliad y ddwy chwaer i ddinasoedd Pisa, Florence, Siena, Perugia, Bologna a Fenis yn 1909.

Dywedodd cyfarwyddwr yr oriel, Amanda Farr, fod yr arddangosfa yn canolbwyntio ar gasgliad "anhygoel" y chwiorydd a adawyd i'r amgueddfa yn 1951 a 1963.

Dressed Dancer in bronze gan Edgar Degas (Llun: Amgueddfa Genedlaethol)
Edgar Degas Dressed Dancer mewn efydd ydi un o'r cerfluniau

Cafodd 11 o weithiau Simon Grennan o Lundain a'i gydweithiwr Americanaidd, Christopher Sperandio, eu comisiynu.

Llwyddodd y ddau i edrych yn fanwl ar archifau'r teulu er mwyn gwybod mwy am eu taith.

Darllenodd y ddau ddyddiaduron y chwiorydd am eu taith i'r Eidal.

Roedd y ddwy chwaer, gafodd eu geni yr 1880au, yn wyresau'r perchennog gwaith glo, David Davies.

Gwnaeth ef ei ffortiwn oherwydd Cwmni Glo yr Ocean ac fe adeiladodd reilffyrdd a dociau'r Barri.

Yn 1908 y dechreuodd y chwiorydd ddechrau casglu'r lluniau o bob cwr o'r byd.

Yn 1923 fe brynon nhw Blas Gregynog ger Y Drenewydd er mwyn arddangos y lluniau.

Ymhlith y casgliad y mae lluniau Lili'r Dŵr gan Monet; Y Fenyw Las a La Parisienne gan Renoir; Y Gusan gan Rodin a llun van Gogh Glaw yn Auvers.



HEFYD
Casgliadau a bywyd dwy chwaer
12 Gorff 07 |  Newyddion
Lluniau'r Chwiorydd Davies
12 Gorff 07 |  photo galleries
Celf Cymru i'w weld yn Llundain
13 Ion 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^