Cafodd y ffenest ei symud o gapel Kings Cross yn Llundain
|
Mae ffenest goffa i'r emynydd Elfed wedi cael ei symud o gapel Cymraeg yn Llundain i gartref newydd yn y gorllewin.
Roedd gwasanaeth arbennig ddydd Sul yng nghapel Annibynwyr Blaen-y-coed ger Cynwyl Elfed yn Sir Gaerfyrddin.
Bu'n rhaid symud y ffenest mewn darnau ar ôl i Gapel Kings Cross, lle oedd Elfed yn weinidog, gau'r llynedd.
Capel Blaen-y-coed oedd addoldy teulu Elfed ac roedd y gwasanaeth ddydd Sul yng ngofal y Parchedig Eifion Lewis sy'n perthyn i deulu'r emynydd.
Dywedodd Elspeth Page, ysgrifenyddes y capel, fod aelodau capel Kings Cross yn y gwasanaeth.
Roedd Elfed neu Howell Elvet Lewis (1860-1953) yn emynydd a bardd.
Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1888 ac yn 1891 a'r Gadair yn 1894.
Bu'n Archdderwydd rhwng 1924 ac 1928 ac roedd yn weinidog yn Llundain o 1904 hyd ei ymddeoliad.
Mae wedi ei gladdu ym mynwent Blaen-y-Coed.
Cafodd yr emynydd Elfed ei gladdu ym mynwent Blaen-y-coed
|
Cafodd y ffenest ei chreu yn 1955 er cof amdano.
"Rhodd gan y Tabernacl yn Kings Cross yw'r ffenest," meddai Mrs Page.
"Fe dderbyniwyd llythyr gan Capel Elfed - fel o'n nhw'n galw eu hunain - yn dweud eu bod nhw'n cau a'u bod yn dymuno fel aelodau roi'r ffenest i Flaen-y-coed.
"Rydyn ni wedi ei gosod mewn ffrâm arbennig ac wedi ei goleuo gan 300 o fylbiau arbennig.
"Roedd e mewn darnau pan gyrhaeddodd ... mae'n siwr bod o leia wyth darn."
Saer lleol, Rhys Williams, sy hefyd yn aelod o'r Capel, wnaeth y ffrâm pren.
Mae'r ffenest wedi ei gosod ar wal fewnol uwchben y pulpud.