Roedd y rhifyn cyntaf i fod ar Fawrth 3, 2008
|
Mae Dyddiol sy tu cefn i bapur Y Byd yn dweud na fyddan nhw'n ceisio sefydlu papur dyddiol.
Dywedodd y cwmni eu bod yn beio Llywodraeth y Cynulliad am eu penderfyniad.
Yn y cyfamser, mae Cymdeithas yr Iaith wedi lansio deiseb ar-lein sy'n cefnogi'r alwad am bapur newydd dyddiol.
Ddechrau'r mis roedd y Gweinidog Treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas AC, wedi dweud y byddai arian ychwanegol ar gael i ddatblygu'r wasg Gymraeg.
Dywedodd Ned Thomas, cadeirydd y cwmni, ei bod yn "gwbl glir" y byddai grant o £200,000 y flwyddyn yn annigonol ar gyfer sefydlu papur dyddiol.
Cyhoeddodd y cwmni fod Aled Price, golygydd Y Byd, wedi ymddiswyddo.
Yn ôl Mr Thomas, bydd bwrdd y cwmni yn cyfarfod i ystyried opsiynau.
"Mae Bwrdd Dyddiol Cyf. yn ystyried nifer o gynlluniau positif a allai wneud cyfraniad pwysig i hybu'r wasg Gymraeg."
Mr Thomas: Cyhoeddi £600,000 ar gael i wasanaethau newyddion yn Gymraeg
|
Yn ôl gwefan Y Byd, mae pobl wedi buddsoddi £340,000 yn y fenter.
"Maes o law, byddwn yn gofyn i gyfranddalwyr y cwmni ystyried y cynlluniau hynny," meddai Mr Thomas.
Roedd y cynllun busnes wedi gobeithio cael o leia £600,000 o gymhorthdal yn y flwyddyn gyntaf.
Ddechrau'r mis cyhoeddodd y Gweinidog Treftadaeth y byddai £200,000 y flwyddyn ar gael ac y byddai'n rhaid i gwmnïau gystadlu am yr arian.
Honnodd cadeirydd y cwmni nad yw'r llywodraeth wedi cadw at ymrwymiad i sefydlu papur dyddiol Cymraeg.
Daeth penderfyniad y gweinidog ar ôl iddo gomisiynu arolwg o'r wasg Gymraeg gan Dr Tony Bianchi.
Roedd Dr Bianchi wedi dweud bod cynlluniau cwmni Dyddiol i lansio papur Y Byd yn uchelgeisiol.
 |
Roedd yn gwbl glir i'r llywodraeth y byddai cefnogaeth cyn lleied â £200,000 y flwyddyn yn annigonol ar gyfer sefydlu Y Byd
|
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad: "Roedd ymateb cynnar Rhodri Glyn Thomas i adroddiad Dr Bianchi yn arwydd clir o gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i'r wasg brintiedig cyfrwng Gymraeg.
"Bydd mwy na £1 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn y wasg Gymraeg dros y tair blynedd nesaf, gan gynnwys £600,000 ychwanegol a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Treftadaeth.
"Rydyn ni'n hyderus y bydd yr arian ychwanegol yn arwain at ddatblygiadau blaengar a fydd yn cynyddu nifer y bobl sy'n darllen yn Gymraeg, yn enwedig ymysg pobl ifanc."