BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 14 Chwefror 2008, 07:59 GMT
Pwll glo: Hwb i amgueddfa
Pwll Glo Gresffordd
Tyrfa yn ymgasglu ar l y ffrwydrad

Mae dogfennau hanesyddol am drychineb Pwll Glo Gresffordd wedi cael eu rhoi i Amgueddfa Wrecsam.

Digwyddodd y drychineb ar Fedi 22 1934.

Daethpwyd o hyd i hen ffeil 70 mlynedd wedi'r drychineb.

Mae'r ffeil a ddaeth i law mewn swyddfa cyfreithwyr yn Wrecsam y llynedd yn cynnwys adroddiad swyddogol ar y drychineb a gyflwynwyd i'r Senedd yn 1937.

Bu farw 266 o ddynion ar l ffrwydrad yno.

Y cyfreithiwr Glen Murphy ddaeth o hyd i'r dogfennau mewn bocs diogelwch yn swyddfa Cyril Jones a Co.

"Rwy'n falch iawn o allu trosglwyddo'r rhain ar l yr holl amser," eglurodd Mr Murphy.

Cofnodion

"Maen nhw mewn cartref diogel nawr.

"Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn annog eraill i roi a benthyg pethau i'r amgueddfa."

Dywedodd yr archifydd Esther Williams bod y drychineb yn "ddigwyddiad trasig" yn hanes Wrecsam.

"Rydym yn falch iawn i gael y cofnodion hyn."

Erbyn 1934 roedd 2,200 o ddynion yn gweithio yng Ngresffordd.

Yn 1932 cofnodwyd 907 o ddamweiniau angheuol ym mhyllau glo Prydain.

Roedd glwr ddeg gwaith yn fwy tebygol o gael ei ladd yn y gwaith na gweithiwr ffatri.



HEFYD
Pryder pentrefwyr am lo brig
12 Chwef 08 |  Newyddion
Dathliad wrth i Bwll Y Twr gau
25 Ion 08 |  Newyddion
Cofeb i gofio'r gwaith glo
21 Medi 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^