Mae'r cylchgrawn yn gwerthu rhywng 3,000 a 3,500 bob wythnos
|
Mae cwmni Golwg yn bwriadu cynnig gwasanaeth newyddion Cymraeg arlein.
Fe fyddan nhw yn ceisio am ryw faint o'r arian mae Llywodraeth y Cynulliad wedi'i gynnig yr wythnos hon i ddatblygu gwasanaethau newyddion yn y Gymraeg.
Ond mae amheuon bellach a oes dyfodol i'r cynllun i sefydlu papur dyddiol Cymraeg. Bydd rheolwyr cynllun Y Byd yn cwrdd ymhen ychydig ddyddiau i drafod eu cam nesaf.
Roedd cynllun busnes Y Byd yn gobeithio cael o leia £600,000 yn y flwyddyn gyntaf.
Ond dim ond £200,000 fydd ar gael - ac mi fydd yn rhaid i gwmnïau gystadlu am yr arian.
Dywed Golygydd Gyfarwyddwr Golwg, Dylan Iorwerth, mai nod y cylchgrawn, sy'n 20 oed, yw datblygu'n raddol i gynnig gwasanaeth pob dydd.
"Ry' ni am ddatblygu ar yr hyn 'dan ni'n ei wneud eisoes, tan fod gennym wasanaeth newyddion a materion cyfoes lawn ar y we".
Mae gan Golwg gylchrediad o rhwng 3,000 a 3,500.
Bwriad gwreiddiol Y Byd oedd cyhoeddi'r rhifyn cyntaf ar Fawrth 3, 2008.