BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 9 Chwefror 2008, 10:53 GMT
Rheilffordd stêm: Adfer pont
Rheilffordd stêm Llangollen
Bydd yr ymgyrch i godi arian yn parhau gan fod angen £85,000

Bydd pont reilffordd hanesyddol dros Afon Dyfrdwy yn cael ei hadfer ar ôl ymgyrch i godi arian.

Dywed gwirfoddolwyr Cymdeithas Rheilffordd Llangollen eu bod wedi codi £50,000 i adnewyddu'r bont ym mhentref Berwyn, Sir Ddinbych.

Ond dywedodd rheolwr masnachol y gymdeithas, Les Green, y bydd yr ymgyrch i godi arian yn parhau gan fod angen £85,000.

"Mae'n her, ond rydym yn hyderus o gyrraedd y nod," meddai Mr Green.

Adeiladwyd y bont yn 1862 a'r bont hon yw'r unig le y mae rheilffordd Llangollen yn croesi Afon Dyfrdwy.

Adfer

Dechreuodd grŵp o wirfoddolwyr adfer y lein ym mis Medi 1975 gyda thrac 60 troedfedd.

Mae 'na gynlluniau hefyd i ymestyn y rheilffordd.

Ar hyn o bryd mae taith reilffordd stêm Llangollen yn dod i ben ym mhentre Carrog.

Mae Cymdeithas Rheilffordd Llangollen am ymestyn y rheilffordd ddwy filltir a hanner i dref Corwen.

Mae'r gymdeithas wedi cysylltu â thîm o ymgynghorwyr, gyda'r bwriad hefyd o godi gorsaf newydd yng Nghorwen.

Dywed y gymdeithas eu bod yn parhau â chynlluniau i estyn y rheilffordd i'r dwyrain.

Y bwriad yn y pen draw yw cyrraedd Rhiwabon, gan gysylltu'r rheilffordd stêm gyda'r rhwydwaith genedlaethol.



HEFYD
Agor rheilffordd ar ôl 46 blynedd
06 Chwef 08 |  Newyddion
Ymgyrch yn 'codi stêm'
02 Hyd 07 |  Newyddion
Hwb i gynllun rheilffordd
02 Hyd 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^