Hywel Williams gomisiynodd yr adroddiad
|
Mae adroddiad ar ddyfodol yr iaith Gymraeg yn argymell rhoi mwy o bwerau i siaradwyr yr iaith a throi Bwrdd yr Iaith yn gomisiwn gyda hawliau newydd.
Mae'r adroddiad hefyd yn awgrymu nad trwy ddeddf iaith yn unig mae cryfhau hawliau siaradwyr Cymraeg.
'Creu Cymru Gwirioneddol Ddwyieithog' yw'r enw ar yr adroddiad gafodd ei gomisiynu gan Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Gaernarfon, Hywel Williams.
Cafodd y ddogfen ei pharatoi gan dîm ymchwil annibynnol Cwmni Iaith.
Nid yw'r ddogfen yn dweud y dylai cwmnïau preifat gael eu gorfodi i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Hawliau'r Unigolyn
Mae'r adroddiad yn pwysleisio hawliau'r unigolyn i dderbyn gwasanaethau heb ragfarn ar sail iaith.
Mae'n argymell symud oddi wrth y drefn bresennol sy'n darparu gwasanaethau ar sail y galw am wasanaethau Cymraeg i drefn sy'n cael ei selio ar gynllunio iaith tymor-hir.
Byddai hyn yn golygu bod rhaid i ddarparwyr gwasanaethau wneud trefniadau er mwyn sicrhau bod rhai gwasanaethau penodol ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ymhlith y 38 argymhelliad, argymhellir bod Bwrdd yr Iaith yn cael ei ddatblygu i fod yn Gomisiwn dros yr Iaith gyda phwerau tebyg i gyrff cydraddoldeb eraill.
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi'r angen i flaenoriaethu deddfwriaeth yn ôl y gwasanaethau sy'n cael yr effiath fwyaf ar grwpiau arbennig.
Byddai hyn yn golygu canolbwyntio gwasanaethau, er enghraifft, ar bobl efo anghenion dysgu arbennig, pobl hŷn a phobl ifanc.
Mantais Masnachol
Dywedodd Mr Williams: "Mae llawer wedi bod yn galw am Ddeddf Iaith newydd i wella Deddf Iaith 1993. Mae'r adroddiad er hynny yn dangos nad oes modd diogelu hawliau siaradwyr Cymraeg drwy un Ddeddf yn unig.
"Bydd angen gwneud hyn drwy amryw o bolisïau, deddfwriaeth a chamau eraill fydd yn cael eu cyflwyno dros gyfnod o amser gan Lywodraeth y Cynulliad a Senedd y Deyrnas Unedig yn San Steffan.
"Beth fyddai'n dda fuasai i gwmïau weld mantais masnachol o ddefnyddio'r Gymraeg, ac os nad ydyn nhw, bydd rhaid i ni gael trafodaeth ehangach.
"Cofiwch mai argymhellion Cwmni Iaith ydi rhain a gobeithio y byddant yn sail i drafodaeth ddefnyddiol yn y misoedd nesaf," meddai Mr Williams.
Mewn ymateb i'r adroddiad dywedodd Simon Evans o Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru: "Fel mudiad, rydym wedi gweithio'n agos ac yn gadarnhaol efo Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
"Mae ein gwaith gyda nhw yn mynd i barhau gan ein bod yn cefnogi'n llwyr y ffordd maent yn mynd i'r afael â chefnogi busnesau bach i gyflwyno Cymraeg yn eu busnesau.
"Mae'r Bwrdd yn gweithredu ar sail annogaeth, perswàd a chydweithrediad, ac rydym yn teimlo mai fel hyn mae parhau i gael y sector preifat i ddefnyddio'r iaith Gymraeg", ychwanegodd Mr Evans.