Fe fydd £600,000 ychwanegol ar gael i gyhoeddiadau newyddion Cymraeg
|
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyhoeddi y bydd yn darparu £600,000 ychwanegol ar gyfer gwasanaethau newyddion Cymraeg.
Ond gyda'r cyhoeddiad gan Weinidog Treftadaeth Cyrmu, Rhodri Glyn Thomas ddydd Mawrth, mae 'na bryderon am ddyfodol papur newydd dyddiol Cymraeg Y Byd.
Fe fydd yr arian ychwanegol yn cael ei ddarparu dros y tair blynedd nesaf.
Roedd y cyhoeddiad yn ymateb i adroddiad Dr Tony Bianchi ar ddyfodol y wasg Gymraeg.
Cafodd adroddiad Dr Bianchi ei gyhoeddi dair wythnos yn ôl.
Roedd cynllun busnes cwmni Dyddiol, sy tu cefn i fenter Y Byd, am weld grant o £600,000 yn y flwyddyn gyntaf, yn hytrach na dros gyfnod o dair blynedd.
Bydd y cwmni yn cyfarfod yn ystod y dyddiau nesa i drafod penderfyniad Llywodraeth y Cynulliad.
Dyblu arian
Dywedodd Mr Thomas ei fod am ddyblu'r arian y mae'r Llywodraeth yn ei roi ar hyn o'r bryd i gyhoeddiadau newyddion a materion cyfoes yn y Gymraeg.
Mae'r Llywodraeth wedi gwneud addewid i "gynyddu'r gefnogaeth sy'n cael ei roi i gylchgronau a phapurau newydd Cymraeg, gan gynnwys sefydlu papur newydd dyddiol Cymraeg" meddai Mr Thomas.
Ar ôl y cyhoeddiad fe fydd £200,000 ychwanegol y flwyddyn yn cael ei roi i wireddu'r addewid yma hyd at 2011.
Mr Thomas: Cyhoeddi £600,000 ar gael i wasanaethau newyddion yn Gymraeg
|
Ar hyn o'r bryd, mae £173,000 yn cael ei gyfrannu yn flynyddol trwy Gyngor Llyfrau Cymru i gefnogi cyhoeddiadau newyddion a materion cyfoes yn Gymraeg.
Bydd y swm yma yn cynyddu i £373,000
Cyngor Llyfrau Cymru fydd yn arwain datblygu'r cyfryngau print Cymraeg yn awr.
Mae'r Gweinidog Treftadaeth wedi gofyn i'r Cyngor wahodd ceisiadau gan bawb sydd â diddordeb yn y maes naill ai o ran sefydlu papur dyddiol neu o ran datblygu gwasanaeth newydd sy'n adeiladu ar y ddarpariaeth bresennol.
"Rwy'n hyderus y bydd y cyhoeddiad hwn yn arwain at geisiadau cynaliadwy a blaengar a fydd yn cynnig ffyrdd arloesol o weithredu, ac a fydd yn cynyddu nifer y bobl sy'n darllen yn Gymraeg, yn enwedig ymysg pobl ifanc," meddai Mr Thomas.
Dywedodd Mr Thomas bod dadansoddiad Dr Bianchi o'r bwriad i sefydlu papur dyddiol Cymraeg wedi "esgor ar drafodaeth frwd ac mae hynny'n sicr o barhau".
Ychwanegodd nad oedd y datganiad ddydd Mawrth am "un prosiect penodol", a dywedodd bod y prosiect penodol o bapur newyddion dyddiol Cymraeg yn "rhan o drafodaeth ehangach o ran y wasg brintiedig yn y Gymraeg".
Arolwg
Gofynnodd Mr Thomas i Fwrdd yr Iaith gynnal yr arolwg ddechrau mis Awst 2007.
Roedd y rhifyn cyntaf i fod ar Fawrth 3, 2008
|
Yn ei arolwg fe ddisgrifiodd Dr Bianchi gynlluniau cwmni Dyddiol Cyf i lansio papur Y Byd fel rhai uchelgeisiol tu hwnt.
Nid oedd neb ar gael o'r cwmni i ymateb i gyhoeddiad y gweinidog ddydd Mawrth.
Ond mae awgrym bod amryw o gwmnïau, yn ogystal â nhw, wedi mynegi diddordeb yn y gronfa fydd ar gael.
Croesawodd Paul Davies, Llefarydd Diwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon y Ceidwadwyr, y datganiad gan Mr Thomas ddydd Mawrth.
Ond roedd o eisiau mwy o eglurhad o ran pa mor debygol yr oedd Cymru o weld papur newydd dyddiol Cymraeg yng Nghymru a beth oedd strategaeth y Llywodraeth am fod ar gyfer y sector yn y dyfodol.
"Gobeithiaf yn fawr iawn bod yna ddyfodol llwyddiannus i'r wasg Gymraeg, a bod y datganiad yma yn mynd rhywfaint at sicrhau hynny," meddai Mr Davies.