BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 4 Chwefror 2008, 18:09 GMT
Arglwydd Thomas o Wydyr wedi marw
Cafodd Peter Thomas  ei benodi gan Edward Heath ar l etholiad cyffredinol 1970.
Cafodd Peter Thomas ei benodi gan Edward Heath ar l etholiad cyffredinol 1970.
Mae'r Arglwydd Thomas o Wydyr wedi marw yn 87 oed.

Peter Thomas oedd y Ceidwadwr cyntaf i gael ei benodi'n Ysgrifennydd Gwladol Cymru pan ddaeth y blaid i rym ym 1970.

Cafodd ei benodi gan Edward Heath ar l etholiad cyffredinol 1970.

Ef hefyd oedd yr Ysgrifennydd Gwladol cyntaf i beidio chynrychioli etholaeth Cymreig.

Er y bu'n aelod seneddol Conwy am 15 mlynedd, fe gollodd y sedd ac roedd yn AS De Hendon yn Llundain pan gafodd ei benodi i'r Cabinet.

'Dyn ardderchog'

Flwyddyn ar l cael ei benodi i'r swydd, cytunodd i sefydlu Awdurdod Dŵr Cymru i warchod buddiannau Cymru.

Tra ar y meinciau cefn, bu'n gyfrifol am newid y gyfraith i alluogi cynghorau lleol i gefnogi'r Eisteddfod Genedlaethol.

Dywedodd yr Arglwydd Roberts o Gonwy: "Roedd Peter Thomas yn ddyn ardderchog ac yn Ysgrifennydd Gwladol ardderchog a edmygwyd yn fawr gan ei gyfoeswyr.

"Roedd yn ddyn galluog iawn."

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar faterion Cymreig, Cheryl Gillan, bod yr Arglwydd Thomas "yn un o'r gwleidyddion Ceidwadol mawr a roddodd oes o wasanaeth cyhoeddus".


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^