BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 4 Chwefror 2008, 16:47 GMT
Diarddel prifathro o gofrestr
Paul Davies
Cafodd Paul Davies ei garcharu am 15 mis

Mae'r Cyngor Dysgu Cyffredinol wedi tynnu enw prifathro ysgol gynradd, gafodd ei garcharu'r llynedd am yrru'n beryglus, oddi ar ei gofrestr am niweidio enw da y proffesiwn.

Ni fydd Paul Davies yn medru ail ymgeisio i fod ar y gofrestr am o leiaf ddwy flynedd ar ôl y penderfyniad gan y panel disgyblu.

Dywedodd tyst fod prifathro Ysgol Gynradd Cwmdâr yn gyrru ar gyflymder o 120 o filltiroedd yr awr yn 2006 pan darodd gar arall ac achosi anafiadau difrifol i Kevin Palmer.

Roedd llywodraethwyr yr ysgol wedi penderfynu y gallai Mr Davies, sy'n 52 oed, ddychwelyd i'w hen swydd ar ôl iddo gael ei ryddhau'n gynnar o'r carchar.

Ar ddechrau'r gwrandawiad ddydd Llun cafwyd manylion o'r achos llys yn erbyn Mr Davies.

Cafodd ei garcharu ym mis Mai ar ôl i'w gar fod mewn gwrthdrawiad â char Mr Palmer ar yr A465 ym Mai 2006.

Roedd y barnwr yn Llys y Goron Casnewydd wedi dweud ei fod yn gyrru "fel gyrrwr ifanc gwyllt."

Penderfynodd llywodraethwyr yr ysgol ganiatáu i Mr Davies ddychwelyd ym mis Ionawr, er gwaethaf cyngor gan yr awdurdod lleol i aros cyn gwneud penderfyniad.

Yn ôl y cyngor sir dylid fod wedi aros dyfarniad y Cyngor Dysgu Cyffredinol cyn dod i benderfyniad.

'Dinistrio bywyd'

Mae'r Cyngor Dysgu Cyffredinol wedi ymchwilio'r achos ar gais Heddlu'r De.

Roedd Mr Palmer, y gyrrwr gafodd ei anafu, wedi beirniadu penderfyniad y llywodraethwyr i ailgyflogi Mr Davies yn ei swydd.

Yn yr achos gwreiddiol clywodd y llys fod tyst wedi gweld car Davies yn cael ei yrru ar gyflymder o 120 milltir yr awr cyn y ddamwain pan oedd yn wlyb a gwyntog.

Dywedodd y barnwr ei fod "i bob pwrpas" wedi dinistrio bywyd Mr Palmer a'i deulu.

Cafodd anafiadau i'w belfis, ysgwydd, asennau, coesau, asgwrn cefn ac anafiadau mewnol.

Bu yn yr ysbyty am 10 mis.

Cafodd Davies ei wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd.



HEFYD
Prifathro: Euog o yrru'n beryglus
10 Mai 07 |  Newyddion


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^