Yr undeb: Am gynyddu'r defnydd o'r iaith
|
Mae mudiad iaith wedi beirniadu Undeb Rygbi Cymru am ddiffyg Cymraeg ar wefan.
Dywedodd Cymdeithas yr Iaith fod y sefyllfa'n "annioddefol" a bod angen i'r corff "barchu" yr iaith.
Ond mae'r undeb wedi dweud y bydd mwy o Gymraeg ar eu gwefan.
Cafodd yr undeb ei feirniadu wrth i Gymru chwarae yn erbyn Lloegr yn Nhwickenham yn eu gêm gynta ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Dywedodd Cymdeithas y bydden nhw'n sgrifennu at benaethiaid yr undeb a chyfeirio at yr hyn oedd yn eu poeni, gan gynnwys "diffyg ymroddiad i'r iaith."
Dydd Sadwrn mae'r mudiad iaith yn cynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol yn Aberystwyth.
Dywedodd y Swyddog Gweinyddol, Dafydd Morgan Lewis,: "Y broblem yw nad oes gair o Gymraeg ar y wefan ...
"Mae'r sefyllfa'n annioddefol ... yn achos rygbi mae Cymru'n cael ei thrin fel cenedl ar lefel ryngwladol.
'Parchu'
"Felly byddai rhywun yn disgwyl bod yr iaith yn cael ei pharchu."
Dywedodd yr undeb y bydden nhw'n adolygu'r wefan ac yn "cynnwys mwy o Gymraeg"
Roedd cynyddu'r defnydd o'r iaith yn rhan o ymgyrch y corff, meddai llefarydd.