BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 5 Chwefror 2008, 11:46 GMT
Iaith: 'Dim digon o ddefnyddwyr'
Bwrdd gwyn
Mae'r llywodraeth am gael hawl i ddeddfu

Ychydig o Gymry Cymraeg sy'n defnyddio'r gwasanaethau Cymraeg sy'n cael eu cynnig gan fusnesau a chyrff cyhoeddus.

Dyna y mae ymchwil rhaglen Dragon's Eye BBC Cymru yn ei awgrymu.

Dywedodd Cymdeithas y Cyflogwyr fod yr ystadegau'n dangos nad oes angen deddfu er mwyn sicrhau bod busnesau'n cynnig gwasanaethau Cymraeg.

Ond mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod yr ystadegau'n brawf pendant o'r angen am Ddeddf Iaith Newydd.

Yn l yr ymchwil, mae llai nag 1% o gwsmeriaid Nwy Prydain, er enghraifft, yn dewis derbyn biliau Cymraeg.

Chwarter un y cant o gwsmeriaid Cymreig Barclays sy'n defnyddio llinell ffn Gymraeg y banc.

Mae tua 250 o bobl yn defnyddio gwasanaeth Cymraeg BT bob dydd.

Dim digon

"Hyd yn hyn rydyn ni wedi gweld cynnydd o ryw 12% eleni ar ein gwasanaeth 118 404 ac mae ymgyrch wedi bod i geisio hyrwyddo'r rhif," meddai Alun Thomas, swyddog polisi a strategaeth iaith Gymraeg BT.

"Yn anffodus, mae gwasanaethau Cymraeg yn costio mwy i unrhyw gwmni - sy'n golygu bod y nifer o bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn bwysig iawn.

"Ar hyn o bryd does 'na ddim digon o bobl yn defnyddio gwasanaethau Cymraeg BT iddo wneud arian i'r cwmni."

Dim ond rhyw 1% o gwsmeriaid morgais y Principality sy'n gofyn am ohebiaeth yn Gymraeg ond mae sefyllfa Dŵr Cymru ychydig yn well gyda dros 9% o gwsmeriaid yn defnyddio'r gwasanaeth Cymraeg.

Gallai Llywodraeth y Cynulliad ofyn am yr hawl i ddeddfu er mwyn sicrhau hawliau ieithyddol i siaradwyr Cymraeg.

'Yn ddarniog'

Fe allai hynny olygu gorfodi "cyflenwyr gwasanaethau" i ddarparu gwasanaethau Cymraeg.

"Y rheswm pam nad yw pobl yn defnyddio unrhyw wasanaethau Cymraeg sydd ar gael yw bod y gwasanaethau ar draws y sector preifat yn ddarniog ac anwadal," meddai swyddog ymgyrchoedd cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith, Sioned Haf.

"Ac mae disgwyliadau pobl Cymru o'r hyn sydd ar gael iddyn nhw yn eu hiaith yn ofnadwy o isel.

"Pe bai deddf iaith yn sicrhau bod gwasanaethau o safon uchel, o'r un safon ac yr un mor hygyrch gwasanaethau trwy gyfrwng y Saesneg, yna byddai'r ystadegau hyn yn codi'n sylweddol."

Dim cyfiawnhad

Yn l Owain Davies o Gymdeithas y Cyflogwyr, doedd dim cyfiawnhad dros ddeddfu.

"Ry'n ni'n gweithredu ar sail galw'r cwsmeriaid yn y byd

"Os yw'r cwsmer yn dweud bod rhaid ei wneud e, fe fydd y byd busnes yn darparu'r gwasanaethau.

"Ond ar hyn o bryd dyw'r angen i bawb ddim yna."


Dweud eich Dweud:

Dyma sylwadau darllenwyr ddaeth i law BBC Newyddion Arlein dros y dyddiau diwethaf ar y pwnc.
Mae hi'n gywilyddus bod rhywun yn gorfod 'gofyn' am siarad ei iaith ei hun mewn unrhyw wlad ble mae'r iaith honno'n cael ei siarad. Mae'r Gymraeg yn un o ieithoedd gwreiddiol yr ynysoedd hyn ac felly ni ddylai neb orfod gofyn am wasanaeth Cymraeg. Mae safon y Gymraeg wedi ei chyfieithu'n aml iawn yn warthus, ac yn anodd i'w deall, a dyma'r rheswm pam bod Cymry Cymraeg cyffredin yn troi at y Saesneg.

Cymro Coch


Dyw hi ddim yn helpu pan mae cwmnau fel Virgin Media (Ntl gynt) yn blocio llinellau Cymraeg. Dyna yw'r sefyllfa gyda rhif ymholiadau ffn BT, sef 118 404, yr unig wasanaeth ymholiadau ffn yn y Gymraeg. Dim diben mewn cwyno wrth Oftel ar sail atal cystadlu - maen nhw'n methu ymyrryd, medden nhw, oherwydd bod Virgin yn cynnig o leiaf ambell rhif arall - ond dyw'r un ohonyn nhw yn y Gymraeg!

TP, Y Barri


Pob tro dwi'n cysylltu gyda BT neu Dŵr Cymru neu Nwy Cymru rhaid canmol y gwasanaeth rydw i'n ei gael. Mae yn gyflym ac yn bersonol. Clod i'r cwmnau hynny.
OND wrth gysylltu gyda fy nghyngor lleol mae ar ben arna i. Sefyll a sefyll a sefyll ac wedyn cael ateb bod y person wedi mynd am ... baned, i'r tŷ bach, yn absennol o'r gwaith, yn delio gyda rhywun arall ac ati ac ati.
Erbyn hyn beth yw'r pwynt? Mae'n cymryd hanner awr i gael ymateb ar unrhyw fater yn y Gymraeg - os ydych chi'n yn lwcus.
Mae yna alw am y gwasanaeth yn y Gymraeg ond rhaid ei fod ar yr un telerau 'r gwasanaeth Saesneg!!!

Alun Thomas, Casnewydd



Dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg ers talwm a dw i wastad yn defnyddio'r llinell Cymraeg efo HSBC. Fel arfer mae rhywun yn ateb y ffn yn syth bin (person go iawn, dim peiriant yn rhoi rhestr o rifau i bwyso).
Dwi'n esbonio fy mod i'n dysgu'r iaith ac eisiau ymarfer. Weithiau medra i siarad yn Gymraeg yn unig, yn achlysurol rhaid i mi droi i'r Saesneg i esbonio rhywbeth. Mae pobl bob amser yn gyfeillgar iawn.
Mae llinell Saesneg HSBC yn mynd trwy gyfandir India. Mae'r pobl wastad yn gwrtais iawn ac yn glir ond fel arfer rhaid i chi aros yn hir iawn, iawn cyn i chi siarad efo nhw.
Os mae'r dysgwyr yn meddwl eu bod nhw yn ddefnyddiol, dwi ddim yn deall pam nad yw'r Cymry Cymraeg yn defnyddio'r gwasanaethau Cymraeg.

Judith, Dinbych


Ar draws y sectorau cyhoeddus preifat a gwirfoddol, y problemau penodol yw:

  • Mae'r gwasanaeth yn anwastad h.y. dyw'r Cymro Cymraeg ddim bob amser ar gael neu os ydyw, mae'n methu ateb eich cwestiwn neu ddim ond rhai gwasanaethau sy'n cael eu cynnwys ...
  • Yn aml, rhaid ichi aros yn hwy i gael rhywbeth yn Gymraeg neu dyw'r holl opsiynau ddim ar gael, neu ddim ar gael yr un pryd;
  • Rhaid i chi ofyn amdano h.y. rhaid ichi fod yn eithafwr amyneddgar i fynnu'ch ffurflen fach bitw ac aros nes i rywun ddod o hyd iddi yn y stafell fach dan glo ar waelod y grisiau. Dyw e ddim yn cael ei gynnig yn awtomatig heb i chi wneud cais arbennig amdano.
    Mae ansawdd sl y gwasanaeth yn peri i lawer ohonom, sy'n frwd dros yr hen iaith, roi'r ffidil yn y to diarhebol a bodloni ar y Saesneg achos mae'r sefydliadau yn gosod y rhwystrau di-rif hyn yn y ffordd.
    Ar ben hynny mae effaith canrifoedd o oruchafiaeth y Saesneg fel iaith llywodraeth a busnes yn meithrin agwedd ymhlith y siaradwyr Cymraeg nad yw'r Gymraeg yn addas fel cyfrwng llywodraeth a busnes.
    O gofio diffyg hyder y mae llawer yn ei brofi wrth geisio defnyddio'r iaith yn y meysydd hyn (diolch i system addysg aneffeithiol sy'n methu galluogi siaradwyr brodorol i ddefnyddio'r iaith ym mhob cywair heb sn am ddysgu'r iaith yn llwyddiannus fel ail iaith), mae'n rhyfeddod bod unrhyw un erioed wedi meiddio gofyn am ffurflen fach yn Gymraeg. Mae'n rhyfeddod mwy eu bod nhw wedi llwyddo i gael un heb wallgofi yn llwyr.
    Yr unig ateb yw darparu gwasanaethau yn Gymraeg yn gyntaf, ac yn Saesneg os yw rhywun yn gofyn amdanynt ac os yw'n briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol ac yn ddydd Mawrth ... dim llai na chwyldro.

    Cynddeiriog o Gaerdydd


    Y broblem gyda defnyddio gwasanethau Cymraeg yw bod rhaid gofyn yn aml am y Gymraeg ar l derbyn y Saesneg. Ces i lythyr o'r cyngor yma yng Nghaerdydd a ffurflen yn Saesneg, ac roedd yn dweud bod y ffurflen ar gael yn y Gymraeg ar gais. Felly roedd dewis naill ymateb yn syth yn Saesneg, neu sgwennu atyn nhw nawr a derbyn ffurflen Gymraeg yn y dyfodol a wedyn ymateb.
    Mi wnes i eu ffonio nhw yn Gymraeg, ond dyw hynny ddim wedi newid iaith yr ohebiaeth. A phan oedd rhaid imi ffonio Dŵr Cymru, fe wnes i ddim sylweddoli bod 'na rif Cymraeg felly defnyddiais i'r Saesneg.
    Ceisiais i ddelio gyda Chanolfan Byd Gwaith yng Nghaerdydd yn Gymraeg y llynedd, ac roedd yn warthus. Yn gyntaf, roedd rhaid imi aros wythnos yn hwy am apwyntiad yn y Gymraeg, a wedyn rhywun oedd yn dysgu oedd ar gael nad oedd yn gyfforddus yn siarad Cymraeg felly roedd rhaid imi ddefnyddio Saesneg.
    Ar y llaw arall, yn y gwaith, dwi'n dewis ffonio rhif cymorth cyfrifiaduron yn Gymraeg bob tro. Mae'n haws.

    Carys o Gaerdydd


    Un broblem gyda'r gwasanaethau a ddarperir gan y cwmnau yw bod braidd dim hysbysebu o gwbl.
    O brofiad personol doedd dim clem 'da fi bod gan lawer o fanciau ayb wasanaeth Cymraeg.
    Hefyd bob tro fy mod i'n ffonio'r DVLA rhaid gadael fy rhif er mwyn iddyn nhw galw fi nl oriau yn hwyrach! Mae'n haws defnyddio'r gwasanaeth Saesneg.
    Yn ogystal, mae diffyg ffurflenni Cymraeg ar gael oddi wrth y cyngor neu'r banc a rhaid gofyn yn benodol amdanyn nhw - wedyn rhaid aros amser hir i'r ffurflen gyrraedd.
    Mae'n rhaid hysbysebu'r gwasanaethau Cymraeg gystal 'r Saesneg a hefyd rhaid cael gwasanaeth o'r un ansawdd.
    Rhaid i ffurflenni Cymraeg fod ar gael yr un pryd rhai Saesneg neu gael ffurflenni dwyieithog. Ac mae angen mwy o staff i ateb y ffn yn y Gymraeg - yn aml, dim ond un siaradwr Cymraeg sy'n ateb y llinell Gymraeg ac os nad ydyn nhw yna mae'r gwasanaeth yn torri lawr.

    Hedd Wyn John


    Yn gyntaf, dyw'r gwasanaethau Cymraeg ddim yn cael eu hybu'n ddigonol a hyd yn oed pan fo gwasanaeth ar gael, weithiau mae'n rhaid gofyn amdano.
    Yn y gorffennol rwyf wedi gwneud pwynt o fynnu gwneud pethau trwy gyfrwng y Gymraeg, yn enwedig gyda chyrff cyhoeddus ond ar adegau bu'n hollol amhosibl derbyn gwasanaeth o'r un safon neu hyd yn oed wasanaeth o gwbl.
    Yn ddiweddar, ffoniais i Gyllid y Wlad i holi am gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Ar l chwilio am amser hir ar y wefan (sy'n uniaith Saesneg heblaw am ambell ffurflen), des i o hyd i'r rhif ffon "for customers who would like to communicate in Welsh".
    Ffoniais i'r rhif deirgwaith cyn cael ateb ac wedyn cyfaddefodd y dyn ar ochr arall y ffn nad oedd e'n gwybod a buasai'n well i gysylltu 'r llinell Saesneg arbenigol!
    Mae'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn wael. Erbyn hyn rwyf yn derbyn cyfieithiad Saesneg (gwael weithiau) o'u gohebiaeth nhw ond os oes angen ffonio, rhaid gwneud hyn yn Saesneg.
    Ar y cyfan gydag awdurdodau lleol, mae'r ddarpariaeth Gymraeg wedi gwella'n sylweddol o ran dogfennau yn y Gymraeg (Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, o leiaf) ond eto, wrth ffonio mae'n rhaid naill ai siarad rhywun sydd efallai ddim hyd yn oed o'r adran sydd ei hangen neu barhau yn Saesneg.
    Dwi innau wedi cael sawl profiad o ddiffyg gwasanaeth Cymraeg Cyngor Casnewydd.
    Unwaith ces i lythyr oddi wrthyn nhw a oedd wedi'i gyfieithu'n syth o eiriadur a ddywedodd eu bod yn dilyn 'Gwifrau tywys' (guidelines!!).
    Does dim syndod felly fod pobl yn gyndyn i ddefnyddio gwasanaethau Cymraeg. Dyw'r safon ddim cystal gyda rhai cwmniau ac wrth orfod ofyn am wasanaeth trwy gyfrwng yr iaith, rhaid aros i gael ateb.
    Y peth gorau fyddai sicrhau fod gwir wasanaeth dwyieithog ar gael o'r cychwyn a bod mwy yn cael ei wneud i farchnata'r fath wasanaeth.

    Gordon Leach


    Y rheswm bod cyn lleied o bobl yn defnyddio gwasanaethau Cymraeg yw bod rhaid optio mewn i'w cael nhw fel arfer - bil Saesneg gewch chi oni bai eich bod chi'n ysgrifennu atyn nhw i ofyn am fil Cymraeg. Pwy sy'n mynd i fynd i'r drafferth o wneud hynny? Dim llawer o neb.
    A dyw hi ddim hyd yn oed yn hawdd iawn cael gwasanaeth Cymraeg wrth fynd i drafferth, fel arfer. Ar raglen Dragon's Eye, er enghraifft, fe nodwyd nad oes fawr neb yn ffonio rhif Cymraeg Banc Barclays. Ewch i wefan (uniaith Saesneg) barclays.co.uk ac o dan 'Contact Us' mae toreth o rifau ffn o bob math, ond ble mae'r un Cymraeg? Ddim yna. Felly sut mae disgwyl i neb ei ffonio?
    Yr wythnos diwetha fe ges i fy mil nwy cyntaf gan Nwy Prydain. Uniaith Saesneg. Fel mae'n digwydd roedd camgymeriad arno hefyd. Ffonio'r rhif ffn. Gofyn am siarad 'da rhywun yn Gymraeg. "Welsh?!" Cael fy rhoi ar hold am ryw chwarter awr. O'r diwedd, siaradwraig Gymraeg. Dechrau'r ymholiad - "o na, sori, allwn ni ddim delio chyfrifon busnes, fydd rhaid i fi drosglwyddo chi'n l i'r linell Saesneg".
    Mae'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig gan y sector breifat yn dorcalonnus ar y cyfan. Dyw'r rhan fwyaf o bobl yn cynnig dim gwasanaeth, a hyd yn oed pan maen nhw'n cynnig mymryn mae hi'r nesaf peth i amhosib eu ffeindio nhw, ac felly mae'n hawdd iawn i'r cwmni stopio'r gwasanaeth oherwydd 'diffyg defnydd'.
    Beth petai'r dewis mor hawdd dewis iaith wrth gymryd arian o dwll yn y wal? Dw i'n siŵr bod y canran sy'n dewis y Gymraeg mewn achosion felly yn llawer iawn uwch. Ond er mwyn cael hynny bu'n rhaid i ymgyrchwyr iaith fandaleiddio peiriannau twll yn y wal yn ystod yr wythdegau. A oes rhaid fandaleiddio cyn cael datblygiadau pellach?
    Fy hunan dw i o blaid deddfu yn helaeth yn y sector breifat, fel mae Cymdeithas yr Iaith yn galw amdano. Dyna'r unig ffordd i sicrhau bod pob math o fusnesau, sy'n rhoi elw uwchben popeth arall, yn darparu gwasanaeth Cymraeg o werth.
    Os yw'r Llywodraeth o ddifrif ynghylch 'creu cenedl ddwyieithog' mae angen iddyn nhw ddangos hynny. Hyd yn oed os yw'r Llywodraeth yn rhy wangalon i gynnig deddf iaith o werth, dw i'n meddwl ei bod yn eithaf amlwg i bawb bod angen Deddf Iaith sy'n gorfodi cwmniau dŵr/trydan/nwy, banciau ac archfarchnadoedd O LEIAF i gynnig gwasanaethau dwyieithog yng Nghymru.
    Mae elw'r cwmnau yma yn anferthol, ac maen nhw'n dod i gyswllt gyda'r cyhoedd yn barhaus. Mae siaradwyr ieithoedd bach eraill ledled Ewrop yn gwthio at ddeddfu mwy mewn meysydd fel hyn er mwyn diogelu'r ieithoedd hynny. Os nad ydyn ni am symud ymlaen yn yr un cyfeiriad, mae'r Gymraeg yn mynd i golli'r cwch.

    Jac y Jwc




    HEFYD
    Ffrae cynllunio am ffafrio iaith
    24 Ion 08 |  Newyddion
    Help i gynnal busnes yn Gymraeg
    21 Ion 08 |  Newyddion
    Papur: 'Penderfynwch yn fuan'
    13 Ion 08 |  Newyddion
    Llysoedd: Trefn iaith ar waith
    11 Ion 08 |  Newyddion
    Technoleg: 'Hwb arall i'r iaith'
    17 Rhag 07 |  Newyddion

    CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


    Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


    Yn ôl i'r brig ^^