BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 30 Ionawr 2008, 20:01 GMT
Cytuno ar arian i'r ysbyty plant
Ysbyty Plant Cymru, Caerdydd
Mae'r rhan gyntaf yn cynnwys ward canser i blant

Mae'r cam cyllidol olaf ar gyfer Ysbyty Plant Cymru wedi ei gymeradwyo gan Fwrdd Iechyd lleol Caerdydd.

Mae'r gweinidog iechyd wedi ymyrryd i sicrhau y bydd 50 miliwn ar gael.

Roedd pryderon am y cynllun, ar l i'r bwrdd ddweud ym mis Gorffennaf nad oedd modd iddyn nhw fforddio eu rhan o 1.1 miliwn y flwyddyn o gostau rhedeg yr ysbyty.

Ond ym mis Rhagfyr dywedodd y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, bod 'na sicrwydd arian o dan gynllun oedd wedi cael ei ddiwygio ac y bydd modd i'r bwrdd gyfrannu tua 299,000 y flwyddyn.

Trafodaethau

Daw'r cyhoeddiad ar l trafodaethau gyda Llywodraeth y Cynulliad, Comisiwn Iechyd Cymru a phartneriaid eraill.

Fe wnaeth rhan gyntaf yr ysbyty, gwerth 10 miliwn, gael ei gwblhau ym mis Chwefror 2005.

Mae'n cynnwys dwy ward 25 gwely meddygol ac un ward 16 gwely canser plant.

Mae disgwyl i'r ail ran, 40 miliwn, y bydd y Llywodraeth yn talu am y costau cyfalaf, agor yn 2010/11.

Catherine Zeta Jones agorodd yr ysbyty yn swyddogol
Catherine Zeta Jones agorodd yr ysbyty yn swyddogol

Fe fydd yn canoli gwasanaeth allanol a mewnol plant gan gynnwys llawdriniaeth, gwelyau cardioleg, gofal dwys ac adran radioleg.

Cafodd y cynllun ei atal ar l i'r bwrdd wrthod cefnogi'r cynllun am yr ail ran ond mae Ms Hart wedi dweud y bydd yn llenwi'r bwlch ariannol er mwyn sicrhau na fydd 'na oedi pellach.

Fe wnaeth annog pawb sy'n gysylltiedig gyda'r cynllun i "gytuno ar drefniant ariannol cynaliadwy hirdymor" gan ddweud nad oedd ei sicrwydd yn "rhyddhau'r bwrdd o'u cyfrifoldebau".

Cafodd Apl Arch Noa ei lansio ym mis Mai 2000 i godi arian ar gyfer unig ysbyty pwrpasol plant Cymru.

Erbyn hyn mae'r apl wedi codi 10 miliwn.

Mae'r apl wedi derbyn cefnogaeth enwogion fel Ian Botham, Catherine Zeta Jones, Charlotte Church a Shirley Bassey.

Yn 2006 fe wnaeth yr actores o Abertawe a'i gŵr Michael Douglas agor yr ysbyty yn swyddogol.



HEFYD
Ysbyty plant: 'Dim ariannu'
25 Gorff 07 |  Newyddion
Ysbyty Plant: Angen mwy o arian
15 Medi 04 |  Newyddion
'Ysbyty plant Caerdydd, nid Cymru'
08 Hyd 06 |  Newyddion
Zeta'n falch o agor ysbyty plant
20 Meh 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^