BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 30 Ionawr 2008, 10:12 GMT
Ysgolion: 60 mewn cyfarfod
Protestwyr Gwynedd
Llais y Bobl: Yn erbyn cau nifer o ysgolion bach

Roedd tua 60 yng nghyfarfod mudiad gafodd ei ffurfio i wrthwynebu bwriad Cyngor Gwynedd i gau ysgolion bach.

Cyfarfod Llais y Bobl ym Mynytho oedd y cyntaf mewn cyfres i gasglu barn y cyhoedd.

Cafodd y mudiad ei sefydlu ar ôl i'r cyngor gyhoeddi cynllun ad-drefnu fydd yn golygu cau 29 o ysgolion.

Mae'r mudiad yn gobeithio y bydd 30 o aelodau yn sefyll mewn etholiadau lleol.

Roedd y cyngor wedi dweud bod angen ad-drefnu am fod 2,400 o lefydd gwag yn yr ysgolion.

Yn ogystal â chau 29 o ysgolion mae'r ad-drefnu'n golygu creu wyth ysgol newydd.

Byddai 18 o ysgolion yn troi'n ffederal, hynny yw ar safle ar wahân ond yn rhannu prifathro.

Casglu ymateb

Dywedodd y cyngor eu bod am gael ymateb y cyhoedd i'w cynlluniau o ddydd Iau ymlaen.

Yn ôl y cyngor, mae'r newidiadau'n angenrheidiol er mwyn cadw "safonau addysg uchel" y sir a sicrhau bod "holl blant Gwynedd yn cael y cyfle gorau posib lle bynnag y maen nhw'n byw".

O ddydd Iau ymlaen, fe fydd y cynllun drafft a holiadur ar wefan y cyngor, meddai Richard Parry Hughes, arweinydd y cyngor.

CYFARFODYDD LLAIS Y BOBL
Ionawr 29 - Y Neuadd, Mynytho
Ionawr 30 - Y Neuadd, Rhostryfan
Ionawr 31 - Y Ganolfan, Porthmadog
Chwefror 1 - Gwesty'r Ship, Dolgellau
Mae'r cyfarfodydd yn dechrau am 7pm (Ffynhonnell: Llais y Bobl)

Yn y cyfarfod nos Fawrth dywedodd trefnydd Llais y Bobl, Alwyn Gurffydd, ei fod yn hyderus y byddai'r mudiad yn llwyddo i ddenu nifer sylweddol o ymgeiswyr o ansawdd.

"Mae'n ymddangos i mi bod pobl wedi cael llond bol ar be sy'n digwydd yng Ngwynedd," meddai Mr Gruffyddd, un o'r ymgeiswyr.

"Ac mae angen setlo llawer o faterion a gwybod be fydd y camau nesaf."

Dywedodd Llinos Merks o Nefyn, sy am sefyll yn etholiadau'r cyngor, fod cyfarfodydd y mudiad yn gyfle i wrando ar lais y cyhoedd.

Mae un arall o'u hymgeiswyr, Gethin Williams o Bont-Ddu ger Dolgellau, wedi dweud y bydd "daeargryn gwleidydddol" yn etholiadau Mai.

"Mae etholwyr yn gwybod mai'r unig ffordd i ddiogelu ysgolion cefn gwald yw trwy sicrhau llwyddiant i Lais y Bobl yn yr etholiad."



HEFYD
Gwynedd: 300 yn protestio
25 Hyd 07 |  Newyddion
Cau 29 ysgol: Rhieni 'i frwydro'
20 Hyd 07 |  Newyddion
Cyngor yn cau ysgolion cynradd
09 Hyd 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^